Pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais am Ddogfen Etholwr Dienw?

Mae'n rhaid i gais am Ddogfen Etholwr Dienw gynnwys y wybodaeth ganlynol:1

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • y cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio, neu lle mae wedi gwneud cais i gofrestru neu, yn achos etholwyr categori arbennig, eu cyfeiriad presennol/gohebiaeth/rhif BFPO (y cyfeiriad dosbarthu perthnasol ym mhob achos)
  • dyddiad geni'r ymgeisydd neu, os na all ei ddarparu, y rheswm pam na all wneud hynny a datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd o dan 18 oed ac, os felly, nodyn i roi gwybod a ydynt o dan 16 oed, neu'n 16 neu'n 17 oed 
  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all ddarparu'r wybodaeth honno, y rheswm pam na all wneud hynny a datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd o dan 16 oed ac, os felly, nid oes angen darparu rhif Yswiriant Gwladol
  • datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd yn ystyried bod angen casglu'r Ddogfen Etholwr Dienw yn bersonol yn hytrach na'i dosbarthu i'r cyfeiriad dosbarthu perthnasol ac, os felly, y rheswm pam mae'r ymgeisydd yn ystyried bod angen ei chasglu 
          y cyfeiriad dosbarthu perthnasol ar gyfer etholwyr cyffredin yw'r cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi'i gofrestru i bleidleisio, neu le y mae wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio
          y cyfeiriad dosbarthu perthnasol ar gyfer etholwyr categori arbennig yw eu cyfeiriad presennol, eu cyfeiriad gohebiaeth neu eu cyfeiriad BFPO.2  
  • nodyn ynghylch a oes angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint mawr o'r ddogfen ar yr ymgeisydd os caiff y cais am Ddogfen Etholwr Dienw ei ganiatáu
  • datganiad ynghylch a oes gan yr ymgeisydd gofnod dienw ar y gofrestr eisoes, neu a yw'n gwneud cais am gofnod dienw
  • datganiad sy'n nodi bod yr wybodaeth yn y cais yn gywir (yn ymarferol, ar bapur, mae hyn yn cynnwys llofnod neu o leiaf farc ar y ffurflen sy'n dangos bod yr ymgeisydd wedi gwneud y datganiad)
  • dyddiad y cais

Mae'n rhaid i gais gynnwys llun addas o'r ymgeisydd hefyd neu rhaid rhoi rheswm pam nad yw'n gallu gwneud hynny. 3
 
Rhaid ystyried bod y cais yn anghyflawn os na chaiff unrhyw un o'r pethau uchod eu darparu. Dylech ofyn i'r ymgeisydd am y wybodaeth goll.nt.

Gall cais gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ymgeisydd hefyd, ond nid yw hyn yn ofynnol.4  

Os na all ymgeisydd ddarparu rhif Yswiriant Gwladol, gall ddarparu gyda'i gais gopi o'r dogfennau a dderbynnir ar gyfer y broses eithriadau yn achos cais am Ddogfen Etholwr Dienw. Os caiff y dogfennau hyn eu darparu, gellir eu defnyddio i gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad neu ddeiseb er mwyn sicrhau y gellir prosesu cais yn ddi-oed.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022