Y broses ardystio ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw

Os bydd angen ardystiad arnoch ar gyfer ymgeisydd mewn perthynas â'i gais, rhaid i chi roi gwybod iddo mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ardystiad yw 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y byddwch yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd bod ei angen1 ac y gall ei gais gael ei wrthod os na fydd yn darparu'r ardystiad neu'n gwrthod gwneud hynny.2  

Rhaid i ardystiad:3

  • gadarnhau mai'r ymgeisydd yw'r sawl a enwir yn y cais 
  • nodi bod yr ardystiwr cymwys yn ymwybodol o'r gosb ar gyfer darparu gwybodaeth ffug i swyddog cofrestru  
  • bod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan yr ardystiwr cymwys
  • nodi enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif etholiadol, a galwedigaeth yr ardystiwr cymwys
  • nodi'r dyddiad y gwnaed yr ardystiad 

Gallech naill ai ddylunio ffurflen yn cynnwys y datganiadau a'r gofynion cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer ardystiad neu nodi'r manylion pan fyddwch yn cysylltu â'r ymgeisydd.

Dylech hefyd ddarparu enghreifftiau o rywun ac iddo enw da er mwyn helpu'r ymgeisydd i ddewis ardystiwr addas. Dylech gynghori'r ymgeisydd na chaniateir i ardystiwr godi tâl am ddarparu ardystiad.

Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn cynnwys canllawiau ar sut i benderfynu a yw'r ardystiad yn ddilys.

Os bydd angen y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu'r Ddogfen Etholwr Dienw ar gyfer pleidlais neu ddeiseb sydd ar ddod, dylech annog yr ymgeisydd i ddarparu'r ardystiad cyn gynted â phosibl a hyd at ac yn cynnwys unrhyw amser ar y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi deiseb.

Gellir danfon ardystiad i'ch swyddfa â llaw neu drwy'r post. Nid yw dulliau danfon electronig, megis e-bost, yn dderbyniol.

Os na all ymgeisydd ddanfon ei ardystiad atoch, gallwch ddewis anfon aelod o staff i gyfeiriad cofrestredig yr ymgeisydd i gasglu'r ardystiad yn bersonol.

Mae'n ofynnol i'r ardystiwr roi ei rif etholiadol fel rhan o'i ardystiad.4 Dylech fod yn ymwybodol y bydd darpar ardystwyr efallai'n gofyn i chi am yr wybodaeth hon.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022