Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Mathau o ddogfennau ar gyfer y broses eithriadau mewn perthynas â cheisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw
Ym mhob achos, dylai'r dystiolaeth sy'n ofynnol i gadarnhau pwy yw ymgeisydd yn llwyddiannus gyfeirio at yr ymgeisydd wrth ei enw.
Mae'r mathau o ddogfennau, a'u nifer, y gellir eu darparu er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw yn llwyddiannus fel a ganlyn:
| Dogfen y gofynnwyd amdani | Gofyniad i ddarparu dogfen(nau) a restrwyd: |
|---|---|
| Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr1 | Tair o'r dogfennau o restr 2, neu Un o'r dogfennau o restr 2 a dwy ddogfen arall a all fod o restr 2 neu 3, neu Bedair dogfen o restr 3 |
| Dogfen Etholwr Dienw2 | Un o'r dogfennau o restr 1, neu Dair o'r dogfennau o restr 2, neu Un o'r dogfennau o restr 2 a dwy ddogfen arall a all fod o restr 2 neu 3, neu Bedair dogfen o restr 3 |
| Rhestr 13 |
|---|
| pasbort yr ymgeisydd |
| cerdyn adnabod yr ymgeisydd a gyhoeddwyd yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd |
| dogfen mewnfudo fiometrig yr ymgeisydd a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 5 o Ddeddf Ffiniau 20074 |
| cerdyn adnabod etholiadol yr ymgeisydd a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon |
| trwydded yrru cerdyn-llun a roddwyd yn y Deyrnas Unedig neu drwydded yrru a roddwyd gan un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, sydd â llun o'r ymgeisydd |
| Rhestr 2 - rhaid i'r dogfennau canlynol fod wedi'u cyflwyno yn y Deyrnas Unedig neu yn un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, heblaw am y ddogfen olaf yn y rhestr hon5 |
|---|
| tystysgrif geni'r ymgeisydd |
| tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil yr ymgeisydd |
| tystysgrif mabwysiadu'r ymgeisydd |
| tystysgrif arfau tanio'r ymgeisydd a roddwyd o dan Ddeddf Arfau Tanio 1968 |
| cofnod penderfyniad ar fechnïaeth a wnaed mewn perthynas â'r ymgeisydd yn unol ag adran 5(1) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 |
| trwydded yrru'r ymgeisydd, nad yw ar ffurf cerdyn-llun |
| trwydded yrru'r ymgeisydd, a roddwyd yn rhywle heblaw am y Deyrnas Unedig neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron, sydd â llun o'r ymgeisydd, ac y mae'n rhaid iddi fod yn ddilys ac yn ddilys am o leiaf 12 mis o'r dyddiad y daeth yr ymgeisydd i'r Deyrnas Unedig |
| Rhestr 3 - rhaid i unrhyw un o'r mathau canlynol o dystiolaeth gynnwys enw llawn yr ymgeisydd fel y'i nodir ar ei gais6 |
|---|
datganiad ariannol, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt—
|
| llythyr neu ddatganiad galw am dalu'r dreth gyngor |
| bil cyfleustod |
| Ffurflen P45 neu Ffurflen P60 a gyflwynwyd i'r ymgeisydd gan ei gyflogwr neu gyn-gyflogwr |
| datganiad o fudd-daliadau neu hawl i fudd-daliadau, megis datganiad o fudd-dal plant, o fewn ystyr adran 141 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu lythyr yn cadarnhau bod hawl gan yr ymgeisydd i gael budd-dal tai, o fewn ystyr adran 130 o'r Ddeddf honno |
Os na all ymgeisydd am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw ddarparu'r mathau o dystiolaeth ddogfennol a nodir yn y canllawiau hyn, neu ddigon o'r mathau hynny, dylid gofyn iddo gyflwyno ardystiad i ategu ei gais.
- 1. Rheoliad 7(2)(b)(ii), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 7(2)(b)(i), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 7(3), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Mae eVisa yn ddogfen breswylio fiometrig ar ffurf ddigidol. Ar hyn o bryd ni ellir cyflwyno unrhyw fath arall o ID ffotograffig mewn fformat digidol. ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 7(4), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 7(5), Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 6
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Ionawr 2025