Y broses eithriadau ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a Dogfennau Etholwyr Dienw
Os bydd angen tystiolaeth ddogfennol ychwanegol arnoch gan ymgeisydd mewn perthynas â'i gais, rhaid i chi roi gwybod iddo am y canlynol:1
y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r dystiolaeth ddogfennol ychwanegol – sef 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y byddwch yn penderfynu bod angen tystiolaeth ychwanegol
y gall ei gais gael ei wrthod os na fydd yn darparu'r dystiolaeth ychwanegol, neu'n gwrthod gwneud hyn
Os bydd angen y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu'r Ddogfen Etholwr Dienw ar gyfer pleidlais neu ddeiseb sydd ar ddod, dylech annog yr ymgeisydd i ddarparu'r dystiolaeth ddogfennol cyn gynted â phosibl hyd at ac yn cynnwys unrhyw amser ar y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad neu'r diwrnod olaf ar gyfer llofnodi deiseb.