Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Bod yn gymwys i bleidleisio drwy'r post
Dylech sicrhau bod etholwyr yn gwybod bod yr opsiwn ganddynt i bleidleisio drwy'r post, drwy ddirprwy neu yn bersonol. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud dewis ar sail gwybodaeth o ran yr opsiwn sydd fwyaf addas i'w hamgylchiadau.
Mae gan etholwyr sydd wedi'u cofrestru, neu a fydd yn cael eu cofrestru, yr hawl i wneud cais am bleidlais bost. Bydd hyd y trefniant yn amrywio yn dibynnu ar y math o etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer. Er mwyn i rywun fodloni'r meini prawf ‘bydd yn cael ei gofrestru’, mae'n rhaid i'r cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod fod wedi mynd heibio a rhaid eich bod wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch ei gais i gofrestru, sy'n golygu y caiff ei ychwanegu at y gofrestr pan gyhoeddir yr hysbysiad o newid nesaf neu pan gyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag sydd gyntaf. 1
Nid yw'n ofynnol i etholwr roi rheswm pam ei fod am bleidleisio drwy'r post.
Yn dibynnu ar y math o etholiad y mae ar ei gyfer, gellir cael trefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer y canlynol:
- etholiad penodol (ar gyfer etholiad a gynhelir ar ddyddiad penodol)
- cyfnod penodol (ni all fod yn hwy na thair blynedd ac sydd â dyddiad dechrau a gorffen, er enghraifft o DD/MM/BB tan DD/MM/BB)
- trefniant pleidleisio drwy'r post tymor hwy y bydd ei hyd yn dibynnu ar y math o etholiad y gwneir y cais ar ei gyfer.
Ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol
Gall trefniant pleidleisio drwy'r post etholwr fod ar waith am gyfnod amhenodol, ond ar ôl pum mlynedd, bydd angen adnewyddu'r llofnod ar gyfer y bleidlais bost. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein canllawiau ar reoli'r prosesau adnewyddu.
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sy'n deillio o'r trefniant ar gyfer etholiadau Senedd y DU
Ni all yr uchafswm cyfnod fod yn hwy na thair blynedd a bydd yn dod i ben ar y trydydd 31 Ionawr a gyfrifir o'r dyddiad y cafodd y cais ei ganiatáu. Mae'n rhaid i chi gysylltu â'r etholwyr yr effeithir arnynt a'u gwahodd i ailymgeisio cyn y dyddiad hwn.2
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein canllawiau ar y broses ailymgeisio.
Ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Os gwneir cais ar wahân gan un o'r canlynol:
- dinasyddion neu gymheiriaid o'r UE na fyddant yn gymwys i gael pleidlais bost mewn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu am fod ganddynt drefniant ar gyfer etholiadau Senedd y DU
- gwladolion Prydeinig, Gwyddelig neu'r Gymanwlad sydd â threfniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ond nid etholiadau Senedd y DU
- gwladolion Prydeinig, Gwyddelig neu'r Gymanwlad nad oes ganddynt drefniadau pleidleisio drwy'r post ar hyn o bryd ac nad ydynt am wneud cais am drefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau Senedd y DU
Bydd y trefniant ond yn weithredol ar gyfer yr etholiad nesaf sydd wedi'i drefnu ym mis Mai 2024. Mae cynlluniau i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth ymhellach ar ôl yr etholiadau hyn fel bod y trefniadau ar gyfer y math hwn o etholiad yn cyd-fynd ag etholiadau llywodraethol eraill yn y DU.
Os bydd etholwr yn gwneud cais am bleidlais bost am gyfnod penodol sy'n hwy na'r uchafswm cyfnod, dylech ganiatáu'r cais ar gyfer y cyfnod hwyaf posibl. Dylai llythyr cadarnhau'r etholwr gadarnhau'r dyddiad y bydd y trefniant pleidleisio drwy'r post yn dod i ben.
Trefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr tramor
Mae trefniant pleidleisio drwy'r post etholwr tramor yn cysylltu'n uniongyrchol â'i gofrestriad etholiadol a bydd yn dod i ben ar y trydydd 1 Tachwedd a gyfrifir o'r dyddiad y caiff ei ychwanegu at y gofrestr neu'r dyddiad yr adnewyddir ei gofrestriad.
Dyddiad y caiff etholwr tramor ei ychwanegu at y gofrestr etholiadol neu'r dyddiad yr adnewyddir ei gofrestriad | Dyddiad y daw'r trefniant pleidleisio drwy'r post i ben |
---|---|
Etholwr wedi'i ychwanegu/adnewyddu ar ôl 16 Ionawr 2024 | 1 Tachwedd 2026 |
Etholwr wedi'i ychwanegu/adnewyddu ar ôl 1 Tachwedd 2024 | 1 Tachwedd 2027 |
Etholwr wedi'i ychwanegu/adnewyddu ar ôl 1 Tachwedd 2025 | 1 Tachwedd 2028 |
Bydd unrhyw drefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwr tramor yn dod i ben pan fydd ei gofrestriad etholiadol yn dod i ben, ni waeth pryd y gwnaed y cais am bleidlais bost. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar reoli'r broses o adnewyddu cofrestriad etholwr tramor.
Os daw cais newydd am bleidlais bost i law ar wahân i ddatganiad adnewyddu gan etholwr tramor yn ystod y cyfnod adnewyddu, dylech gadarnhau a yw'r etholwr wedi gwneud cais etholwr tramor newydd. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech gysylltu â'r etholwr tramor i gadarnhau a yw am adnewyddu ei ddatganiad. Os yw am wneud hynny, arhoswch i'w dderbyn a dylech ei brosesu cyn y cais am bleidlais bost.
Os na allwch gael cadarnhad gan yr etholwr, dylech brosesu'r cais am bleidlais bost heb y datganiad adnewyddu ac egluro i'r etholwr y bydd ond yn gymwys tan ddiwedd cyfnod y datganiad presennol (h.y. hyd at y 1 Tachwedd perthnasol). Os daw datganiad adnewyddu i law wedi hynny, byddai angen i'r etholwr tramor wneud cais newydd er mwyn i'r bleidlais bost barhau y tu hwnt i gyfnod y datganiad presennol.
Trefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr sy'n cyrraedd 18 oed
Dylech gysylltu ag etholwyr 16 ac 17 oed sydd â threfniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol pan fyddant yn cyrraedd 18 oed.
Dylai eich gohebiaeth:
- esbonio nad yw eu trefniant pleidleisio drwy'r post presennol yn gymwys i etholiadau Senedd y DU nac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- esbonio y bydd angen iddynt wneud cais am bleidlais bost os ydynt yn dymuno pleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
- rhoi gwybodaeth iddynt am sut i wneud cais o'r fath i bleidleisio drwy'r post
- 1. Adrannau 9(2), 10ZC(1), 13 ac 13A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Atodlen 4 Paragraff 3(1) a 4(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 60ZA(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 2