Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cadarnhau canlyniad cais am bleidlais bost
Rhaid i chi ysgrifennu at ymgeiswyr i roi gwybod iddynt a yw eu cais wedi cael ei dderbyn1
neu ei wrthod.2
Os caiff cais ei wrthod, rhaid i chi roi'r rheswm/rhesymau dros hyn.2
Mae gweithdrefn apelio ar gyfer ceisiadau am bleidlais absennol sydd wedi cael eu gwrthod.
Os na phenderfynir ar gais o fewn amserlen a fydd yn caniatáu i’r etholwr dderbyn a dychwelyd ei bleidlais bost neu tan ar ôl etholiad penodol, dylech roi gwybod i'r ymgeisydd na fydd y penderfyniad yn cael ei wneud mewn pryd i gyflwyno pleidlais bost ar gyfer yr etholiad penodol hwnnw, ond y bydd y bleidlais bost ar waith ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Dylech geisio cysylltu ag etholwyr o'r fath drwy e-bost neu dros y ffôn i esbonio'r trefniadau amgen y gellid eu rhoi ar waith ar gyfer y diwrnod pleidleisio.
Os na fydd y dyddiad cau i bleidleisio drwy ddirprwy wedi mynd heibio hefyd, dylech dynnu sylw at yr opsiwn hwn ar gyfer yr etholiad penodol a chynnwys y ffurflen berthnasol. Fodd bynnag, dylech hefyd nodi os bydd yr etholwr yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad penodol hwnnw, bydd y cais am bleidlais bost a broseswyd ar gyfer etholiadau yn y dyfodol yn cael ei ganslo a bydd angen gwneud cais newydd am bleidlais bost.
Dylech sicrhau bod y llythyr cadarnhau yn nodi i ba etholiadau y mae'r cais am bleidlais bost yn berthnasol, yn enwedig os nad yw'r bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol.
Os nad ydynt wedi gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr holl fathau o etholiadau y maent yn gymwys i bleidleisio ynddynt, dylech roi gwybod iddynt sut y gallant wneud cais am bleidlais bost ar gyfer unrhyw etholiad arall, gan gynnwys y gallu i wneud cais ar-lein lle bo hynny’n briodol, ac unrhyw ddyddiadau cau perthnasol ar gyfer gwneud cais.
Mae’n bosibl hefyd, yn agos at y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio drwy’r post, y byddwch am anfon cais bapur, ar gyfer unrhyw etholiadau perthnasol eraill nad ydynt wedi’u cwmpasu gan eu cais gwreiddiol, gyda’r llythyr cadarnhau.
Pan fyddwch yn cadarnhau trefniant pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer etholiad penodol, yn enwedig cyfnod penodol neu'r uchafswm cyfnod, mae'n rhaid i'r hysbysiad hefyd nodi pryd y daw'r trefniant i ben.3
Mae hysbysiadau cadarnhau yn gyfle i ddiogelu rhag twyll posibl, neu gamddealltwriaeth ar ran yr etholwr. Gallwch hefyd benderfynu cydnabod eich bod wedi derbyn ceisiadau. Os bydd etholwr yn cael cydnabyddiaeth am bleidlais bost nad yw wedi gwneud cais amdani, byddai cael y gydnabyddiaeth yn gyfle iddo gysylltu â chi.
Dylai'r holl ymatebion, ynghyd ag unrhyw hysbysiadau cadarnhau neu gydnabyddiaethau, a gaiff eu dychwelyd fel post heb ei ddosbarthu/ddim yn hysbys yn y cyfeiriad hwn eu monitro ac, os oes gennych bryderon, dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar nodi ceisiadau amheus am bleidlais absennol.
- 1. Rheoliad 57(1A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd), Para 17(1), Atod 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 57(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Para 17(3), Atod 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 2 a b
- 3. Rheoliad 57 (1A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 17 (1), Atod 2, Gorchymyn Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3