Fformat gofynnol ar gyfer llofnod a dyddiad geni ar gais am bleidlais bost
Er nad oes ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost, mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i lofnod a dyddiad geni'r ymgeisydd gael eu nodi fel a ganlyn:1
bydd y llofnod yn ymddangos yn erbyn cefndir o bapur gwyn heb linellau sy'n 5cm o hyd ac yn 2cm o uchder o leiaf,
bydd dyddiad geni'r ymgeisydd ar ffurf rhifau yn y drefn dyddiad, mis a blwyddyn, h.y. DD MM BBBB
Nid yw lleoliad y llofnod a'r dyddiad geni ar ffurflen gais bapur am bleidlais bost yn rhagnodedig. Ni chewch orfodi unrhyw amodau eraill o ran y ffordd y caiff y wybodaeth ei chyflwyno. Ar yr amod bod y llofnod a'r dyddiad geni yn bodloni'r gofynion deddfwriaethol, rhaid derbyn y cais.
Os ydych yn cynhyrchu ffurflenni cais papur ar gyfer pleidleisiau post, dylech sicrhau bod y rhain yn bodloni arferion da safonol o ran hygyrchedd a defnyddioldeb, a'ch bod yn gosod y ffurflen yn glir er mwyn helpu i sicrhau y caiff ei chwblhau'n gywir. Er enghraifft, gallech osod y blwch dyddiad geni cyn y blwch llofnod, gyda lle ar gyfer y dyddiad cwblhau ar ei ôl er mwyn lleihau'r risg y bydd ymgeiswyr yn rhoi'r dyddiad cwblhau gyntaf drwy gamgymeriad.
Os gwneir y cais ar-lein, mae'n rhaid i'r ffotograff o lofnod yr ymgeisydd fodloni'r gofynion a nodir uchod a bod yn ddigon clir a diamwys.2
1. Atodlen 1, Paragraff 3, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025, Rheoliad 51 (3A) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliad 51(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 2