Pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais am bleidlais bost?

Bydd y wybodaeth y mae angen ei chynnwys mewn ceisiadau am bleidlais bost yn amrywio yn dibynnu ar y math o etholiad y gwneir cais am bleidlais bost ar ei gyfer. Mae'n rhaid i bob cais gynnwys y canlynol:1

 

  • enw llawn yr etholwr 
  • y cyfeiriad lle mae'r etholwr wedi'i gofrestru (neu wedi gwneud cais i gofrestru) i bleidleisio
  • dyddiad geni'r etholwr
  • llofnod yr etholwr (neu gais am hepgoriad llofnod)
  • p'un a yw'r cais ar gyfer etholiad ar ddyddiad penodol (ac, os felly rhaid cadarnhau pa un), cyfnod penodol (ac, os felly, rhaid nodi dyddiadau'r cyfnod) neu'r cyfnod hwyaf a ganiateir
  • pa etholiadau y mae'r cais yn berthnasol iddynt
  • y cyfeiriad y dylid anfon y pecyn pleidleisio drwy'r post iddo ac, os yw hwn yn wahanol i'r cyfeiriad a gofrestrwyd, rheswm dros ailgyfeirio'r pecyn.  

Gall cais gynnwys enw blaenorol, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ymgeisydd hefyd, ond nid yw'r rhain yn ofynnol.
 
Mae'n rhaid i geisiadau am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd gynnwys y wybodaeth ganlynol:2

  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all ddarparu'r wybodaeth honno, y rheswm pam na all wneud hynny 

Caiff enw llawn, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni'r ymgeisydd eu hadnabod fel ei ddynodyddion personol hefyd a defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i baru â data'r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd pan fydd yn gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar rifau Yswiriant Gwladol a dyddiadau geni yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddynodyddion personol.

Os na all ymgeisydd ddarparu rhif Yswiriant Gwladol, gall ddarparu gyda'i gais gopi o'r dogfennau a restrir yn y rhestr o ddogfennau a dderbynnir ar gyfer y broses eithriadau.3
   
Os caiff y dogfennau hyn eu darparu, gellir eu defnyddio i gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad er mwyn sicrhau y gellir prosesu cais yn ddi-oed.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023