Trefniadau trosiannol

Bydd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy etc.) (Diwygio) 2023 yn cychwyn ar 31 Hydref 2023 ac yn effeithio ar geisiadau i bleidleisio drwy'r post a wneir ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.


Dileu hawl awtomatig i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn seiliedig ar drefniant pleidleisio absennol llywodraeth leol presennol


Bydd etholwyr sydd â threfniadau pleidleisio drwy'r post presennol sy'n cwmpasu etholiadau Senedd y DU yn parhau i gael pleidlais bost ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu tra bo'r trefniant hwnnw yn parhau i fod ar waith. Bydd yn ofynnol iddynt wneud ail gais erbyn 31 Ionawr 2026 os bydd y trefniant yn dal i fod ar waith bryd hynny.


O 31 Ionawr 2024 ni fydd gan yr etholwyr hynny sydd â threfniant presennol i bleidleisio drwy'r post mewn etholiadau llywodraeth leol yn unig hawl i bleidleisio drwy'r post mewn etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu mwyach gan fod darpariaethau yn dileu'r hawl awtomatig hon i etholwyr yng Nghymru.   Y rheswm yw nad yw'r trefniadau pleidleisio drwy'r post mewn etholiadau llywodraeth leol i bleidleiswyr yng Nghymru wedi'u cwmpasu gan y gofyniad newydd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol at ddiben dilysu ID sy'n ofynnol i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.


Mae cynlluniau i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth fel bod y trefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer y math hwn o etholiad yn cyd-fynd ag etholiadau llywodraethol eraill yn y DU.

Ceisiadau newydd a ddaw i law ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn, sef 31 Hydref 2023

Mae'n rhaid i bob cais am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy’r post a ddaw i law ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn ar gyfer etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu fodloni'r gofynion newydd, gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer dilysu dynodyddion personol.1

Pan na fydd cais yn cynnwys y wybodaeth ofynnol, dylech wneud ymholiadau er mwyn cael y wybodaeth sydd ar goll lle y bo'n bosibl. Os na chyflwynir y wybodaeth sydd ar goll, ni ellir derbyn y cais. Dylech ysgrifennu at yr etholwr yn esbonio pam nad yw'r cais wedi'i dderbyn a sut i gyflwyno cais o'r newydd.
 

Rhoi gwybod i bleidleiswyr sydd eisoes yn pleidleisio drwy'r post a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fod angen iddynt ailymgeisio

Bydd pleidleiswyr a dirprwyon domestig sydd eisoes yn pleidleisio drwy'r post ers tro yn etholiadau Senedd y DU yn dal i allu pleidleisio drwy'r post tan 31 Ionawr 2026. 

Bydd angen i chi roi gwybod i'r pleidleiswyr hyn fod angen iddynt ailymgeisio cyn i'w trefniant presennol ddod i ben. 

Mae'n rhaid i'r hysbysiad gynnwys y dyddiad y daw eu hawl bresennol i bleidleisio drwy'r post i ben a rhoi gwybod iddynt sut i wneud cais newydd cyn y dyddiad hwnnw os ydynt am barhau i bleidleisio drwy'r post.

Trefniadau trosiannol ar gyfer etholwyr tramor â phleidleisiau post

Bydd trefniadau pleidleisio drwy'r post etholwyr tramor sydd ar waith pan fydd y darpariaethau newydd ar gyfer etholwyr tramor yn cychwyn yn dod i ben ar yr un pryd â'u datganiad etholwr tramor presennol, sef o fewn 12 mis i'r dyddiad cychwyn. Bydd angen i chi gysylltu â'r etholwr cyn i'r ddatganiad etholwr tramor ddod i ben er mwyn rhoi gwybod iddo y bydd angen iddo ailymgeisio am ei bleidlais bost. Gellir cyfuno hyn ag unrhyw gais i adnewyddu sy'n ymwneud â'r angen i ailymgeisio er mwyn i'r unigolyn barhau i fod wedi'i gofrestru fel etholwr tramor.

Unwaith y daw'r darpariaethau newydd ar gyfer etholwyr tramor i rym, yr uchafswm cyfnod ar gyfer trefniadau pleidleisio drwy'r post fydd hyd at ddiwedd y cyfnod i adnewyddu datganiad. Cyfrifir y cyfnod hwn o'r dyddiad gwreiddiol yr ychwanegwyd yr etholwr tramor at y gofrestr a bydd yn dod i ben ar y trydydd 1 Tachwedd a gyfrifir o'r dyddiad y caiff ei ychwanegu at y gofrestr neu'r dyddiad yr adnewyddir ei gofrestriad.

Bydd ein canllawiau ar gyfer etholwyr tramor yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r newidiadau o ganlyniad Deddf Etholiadau 2022.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Medi 2024