Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost

Gellir gwneud cais ar unrhyw adeg a dylech brosesu pob cais cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, ceir dyddiadau cau mewn deddfwriaeth ar gyfer derbyn ceisiadau am bleidleisiau post fel eu bod yn gymwys mewn etholiad penodol. 

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post
5pm – 11 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad1   
 
Dyddiad cau ar gyfer newid trefniadau pleidleisio absennol presennol (gan gynnwys eu canslo)  

5pm – 11 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad1

Ac eithrio lle mae papur pleidleisio drwy'r post wedi'i gyflwyno cyn hynny ac wedi'i ddychwelyd (ond nid o dan y darpariaethau ar gyfer pleidlais sydd ar goll / a ddifethwyd / nas derbyniwyd) – yn yr achos hwnnw, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau ar ôl dychwelyd y papur pleidleisio.2      

Mae dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau am bleidleisiau post mewn etholiadau yn statudol. Ni ellir ymestyn y dyddiadau cau am unrhyw reswm. Ni ellir derbyn ceisiadau am bleidlais bost a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer etholiad penodol.

Os na fydd ceisiadau am bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol yn cyrraedd erbyn y dyddiad cau, dylid rhoi gwybod i ymgeiswyr na dderbyniwyd eu cais erbyn y dyddiad cau statudol ac na ellir ei ganiatáu ar gyfer yr etholiad hwnnw felly.
 
Os na fydd y dyddiad cau i bleidleisio drwy ddirprwy wedi mynd heibio hefyd, dylech dynnu sylw at yr opsiwn hwnnw a chynnwys y wybodaeth berthnasol am sut y gellir gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Dylech hefyd roi gwybodaeth iddynt am sut i wneud cais arall am bleidlais bost ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.

Mae'n rhaid i geisiadau am drefniant pleidleisio drwy'r post tymor hwy a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer etholiad o'r fath gael eu prosesu o hyd a rhaid penderfynu arnynt hefyd, ond byddant ond yn gymwys mewn etholiadau dilynol.3  Dylech roi gwybod i'r ymgeiswyr eu bod wedi colli'r dyddiad cau i gael pleidlais bost ar gyfer yr etholiad penodol hwnnw, ond y byddant yn cael pleidlais bost mewn etholiadau yn y dyfodol. Os na fydd y dyddiad cau i bleidleisio drwy ddirprwy wedi mynd heibio hefyd, dylech dynnu sylw at yr opsiwn hwn ar gyfer yr etholiad penodol a chynnwys y ffurflen berthnasol. Fodd bynnag, dylech hefyd nodi os bydd yr etholwr yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiad penodol hwnnw, bydd y cais am bleidlais bost a broseswyd ar gyfer etholiadau yn y dyfodol yn cael ei ganslo a bydd angen gwneud cais newydd am bleidlais bost.

Deisebau Adalw

Bydd gan unigolyn hawl i lofnodi deiseb drwy'r post os caniatawyd cais iddo am gyfnod penodol neu amhenodol mewn etholiadau seneddol cyn 5pm ar y diwrnod olaf (3 diwrnod gwaith cyn diwrnod cyntaf y cyfnod llofnodi). 
Os caniatawyd cais i unigolyn bleidleisio drwy'r post am gyfnod penodol ac mae'r cyfnod hwnnw yn dod i ben yn ystod cyfnod llofnodi deiseb benodol, tybir y bydd y cyfnod penodol hwnnw yn parhau tan ddiwedd y cyfnod llofnodi. Oni bai ei fod yn gwneud cais i ganslo ei bleidlais bost cyn 5pm ar yr unfed dydd ar ddeg cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.4

Cyfrifo dyddiadau cau

Caiff dyddiadau cau eu cyfrifo mewn diwrnodau gwaith drwy eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc.5

Mae gwyliau banc sy'n gymwys wrth gyfrifo dyddiadau cau ar gyfer pleidleisiau post yn rhai sy'n gymwys yn unrhyw le ar draws yr ardal lle caiff yr etholiad cyfan ei gynnal. Felly, mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU, bydd gŵyl y banc yn yr Alban yn gymwys yng Nghymru a Lloegr hefyd. Yr unig eithriad i hyn yw pan gaiff gweithrediadau mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU mewn etholaeth benodol eu dechrau o'r newydd gan fod ymgeisydd wedi marw. Yn yr achos hwn, dim ond y gwyliau banc sy'n gymwys yn yr ardal dan sylw gaiff eu cynnwys wrth gyfrifo'r dyddiadau cau ar gyfer pleidleisio drwy'r post.

Fodd bynnag yn is-etholiadau Senedd y DU ac mewn etholiadau llywodraeth leol, dim ond y gwyliau banc sy'n gymwys yn yr ardal lle caiff yr etholiad ei gynnal y mae'n rhaid eu hystyried.6

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023