Ceisiadau am bleidleisiau post

Mae'r ffordd y gall etholwr wneud cais am bleidlais bost yn dibynnu ar y math o etholiad y mae'r cais ar ei gyfer.

Ar gyfer pob math o etholiad, gellir gwneud ceisiadau:

  •  yn ysgrifenedig (e.e., ar ffurflen gais bapur)
  • yn bersonol yn eich swyddfa (os byddwch yn penderfynu cynnig y gwasanaeth)

Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn ogystal â'r ffyrdd a nodir uchod, gellir gwneud cais ar-lein ar wefan GOV.UK.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gynnwys gofynnol ceisiadau am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau gwahanol.

Ffurflenni cais papur

Nid yw ffurflenni cais am bleidlais bost wedi'u rhagnodi, ond rhaid i gais gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol a rhaid cyflwyno'r llofnod a'r dyddiad geni mewn fformat penodol.1  Bydd y wybodaeth ofynnol yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau o etholiadau.

Pan fydd rhywun yn gofyn am ffurflen gais bapur, cyn darparu un dylech gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio neu ei fod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech esbonio bod yn rhaid i'r ymgeisydd fod wedi cofrestru i bleidleisio a dylech gynnig y cyfle iddo wneud cais i gofrestru ar-lein neu anfon ffurflen gofrestru i bleidleiswyr.

I sicrhau eich bod yn anfon y ffurflen gais briodol/ffurflenni cais priodol am bleidlais bost, dylech gadarnhau yn gyntaf yr etholiadau y mae'r etholwr yn gymwys i bleidleisio ynddynt.

Rydym yn cynhyrchu ffurflenni cais am bleidlais bost y gellir eu hargraffu y gallwch eu defnyddio.

Caiff y ffurflenni cais am bleidlais bost hyn y gellir eu hargraffu eu cyhoeddi ar ein gwefan ac ar GOV.UK.
 
Gall ffurflen gais bapur am bleidlais bost fod mewn unrhyw fformat: mae llythyr, e-bost ag atodiad wedi'i sganio neu ffurflen gais bapur yn dderbyniol, cyhyd â bod y llofnod a'r dyddiad geni yn glir ac wedi'u darparu yn y fformat rhagnodedig.
 
Os byddwch yn cael cais ysgrifenedig nad yw wedi'i gyflwyno ar ffurflen gais, dylech gadarnhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Os yw'n anghyflawn, dylech ddilyn y broses a amlinellir yn ein canllawiau ar geisiadau anghyflawn.

Gwneud cais yn bersonol

Mae'n bosibl y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd cwblhau cais am bleidlais bost. Er budd a chyfleustra eich etholwyr ac i'ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dylech gynnig gwasanaethau gwneud cais yn bersonol fel bod unigolion yn cael y cyfle i wneud cais heb fod angen darparu gwybodaeth ar gyfer y cais yn ysgrifenedig.

Os na allwch ddarparu cymorth i gwblhau ceisiadau am bleidleisiau post yn bersonol i bawb, dylech ddarparu hyn yn ôl eich disgresiwn o dan rai amgylchiadau o hyd.

Wrth ymdrin â cheisiadau a wneir yn bersonol, cyn parhau dylech gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio neu ei fod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech esbonio bod yn rhaid bod ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio cyn y gall gael pleidlais bost a dylech gynnig y cyfle iddo wneud cais i gofrestru.
 
I sicrhau bod y ffurflen gais briodol/ffurflenni cais priodol am bleidlais bost yn cael ei chwblhau/eu cwblhau, dylech gadarnhau ym mha etholiadau y mae'r etholwr yn gymwys i bleidleisio a chadarnhau bod gan yr ymgeisydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen i chi gwblhau cais ar ei ran yn llawn.
 
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, mae hyn yn cynnwys ei rif Yswiriant Gwladol neu reswm pam na ellir darparu hwn, ei ddyddiad geni a'i allu i ddarparu llofnod inc ysgrifenedig ar ffurflen bapur neu lun o'i lofnod inc er mwyn ei lanlwytho i'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais bost. Gallwch helpu'r ymgeisydd i dynnu llun o'i lofnod a'i lanlwytho os bydd angen.

Os na fydd unigolyn yn gallu darparu llofnod ysgrifenedig, gall wneud cais am hepgoriad.
 
Nid oes modd cwblhau ceisiadau a wneir drwy ddefnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais bost yn rhannol ac yna eu gorffen yn ddiweddarach, felly os na all ymgeisydd ddarparu'r holl wybodaeth, bydd angen i chi sicrhau bod ei gais yn cael ei gyflwyno ar ffurf ffurflen bapur fel y gallwch ychwanegu unrhyw wybodaeth sydd ar goll yn ddiweddarach.

Unwaith y byddwch wedi casglu'r wybodaeth angenrheidiol, dylech ei darllen yn ôl i'r ymgeisydd, gan roi'r cyfle iddo adolygu'r wybodaeth a ddarparwyd a bodloni ei hun bod y wybodaeth yn wir ac yn gywir. 

Os byddwch yn derbyn ceisiadau yn bersonol, mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnodion cywir o'r wybodaeth a roddir gan ymgeiswyr.2  Cyn casglu unrhyw wybodaeth, dylech sicrhau bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o'ch hysbysiad preifatrwydd, rhoi gwybodaeth gyffredinol iddo am y ffordd y caiff ei ddata eu defnyddio a'i hysbysu am y ffaith bod gwneud datganiad ffug yn drosedd.

Ceisiadau ar-lein

Gall etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd wneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais bost, a gaiff ei letya ar GOV.UK. 

Dylid hysbysu etholwyr sy'n gwneud cais gan ddefnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais bost y bydd angen iddynt wneud cais ar wahân gan ddefnyddio ffurflen bapur, neu yn bersonol, os ydynt yn dymuno pleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol.

Nid yw'n bosibl i ddirprwy a enwebwyd sy'n dymuno pleidleisio drwy'r post wneud cais am bleidlais bost ar-lein. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023