Penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost

Bydd y ffordd y byddwch yn penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost yn dibynnu ar y math o etholiad y mae'r cais ar ei gyfer.

Ceisiadau am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol

Dim ond etholwyr sydd wedi'u cofrestru, neu a fydd yn cael eu cofrestru, all wneud cais am bleidlais bost. Felly bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru, neu y bydd yn cael ei gofrestru, cyn caniatáu cais am bleidlais bost.

Er mwyn i rywun fodloni'r meini prawf ‘bydd yn cael ei gofrestru’, mae'n rhaid bod y cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod wedi mynd heibio a rhaid eich bod wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch ei gais i gofrestru, sy'n golygu y caiff ei ychwanegu at y gofrestr pan gyhoeddir yr hysbysiad o newid nesaf neu pan gyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag sydd gyntaf.1

Unwaith y bydd y cais wedi mynd drwy'r gwiriad cofrestru yn llwyddiannus, rhaid craffu arno i sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig.2 Os yw'n bodloni'r gofynion, rhaid i chi gadarnhau canlyniad y cais i'r etholwr.3  Dylech sicrhau bod y llythyr cadarnhau yn nodi i ba etholiadau y mae'r cais am bleidlais bost yn berthnasol, yn enwedig os nad yw'r bleidlais bost ar gyfer etholiad penodol.  Os nad yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais am bleidlais bost ym mhob etholiad, dylech roi gwybod iddo sut y gall wneud cais am bleidlais bost ar gyfer unrhyw etholiadau eraill ac unrhyw ddyddiadau cau perthnasol.

Os bydd ceisiadau yn anghyflawn, dylech wneud ymholiadau er mwyn cael y wybodaeth sydd ar goll lle y bo'n bosibl. Os na chyflwynir y wybodaeth sydd ar goll, rhaid gwrthod y cais.4

Os bydd yn ymddangos bod yr etholwr wedi gwneud camgymeriad wrth gwblhau ei gais am bleidlais bost (er enghraifft, os bydd wedi rhoi ei ddyddiad geni yn y drefn anghywir), dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn iddo ailddarparu'r wybodaeth. Dylech gymryd camau ychwanegol i gysylltu â'r etholwr drwy e-bost neu dros y ffôn lle y bo modd, os yw'n agos at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost cyn etholiad.

Os bydd gennych bryderon o ran uniondeb, dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor a delio â'r ffurflen gais yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a gewch ganddo mewn perthynas â thrin tystiolaeth.

Ceisiadau am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Dim ond etholwyr sydd wedi'u cofrestru, neu a fydd yn cael eu cofrestru, all wneud cais am bleidlais bost. Caiff y gofrestr etholiadol berthnasol sydd yn eich system rheoli etholiadol ei gwirio.
 
Bydd canlyniad y gwiriad hwn yn ymddangos yn y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn cadarnhau p'un a yw person sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost yn etholwr cofrestredig ai peidio.
 
Os gwelir bod ymgeisydd yn etholwr cofrestredig, bydd y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn dangos bod y wybodaeth yn cyfateb i gofnod ar y gofrestr, a byddwch yn gallu ystyried gweddill y manylion yn y cais.

Os canfyddir bod cofnod yn aros i gael ei ychwanegu at y gofrestr ar gyfer ymgeisydd, gallwch benderfynu ar y cais am bleidlais bost ar ôl i'r cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod fynd heibio.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dychwelyd i broses y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn prosesu ceisiadau'r rhai sy'n aros i gael eu hychwanegu ar ôl y cyfnod gwrthwynebu.

Os bydd y canlyniadau yn dangos nad yw ymgeisydd wedi'i gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol neu nad yw wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol, dylech benderfynu a ddylid gwrthod y cais ar y cam hwn, aros ac edrych eto yn ddiweddarach, neu wneud math arall o wiriad â llaw a all fod yn ddefnyddiol. 

Gallai hyn gynnwys edrych i weld a yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais i gofrestru ar yr un pryd ag y gwnaeth gais am bleidlais bost ac nad yw'r gwiriad data o'r broses gofrestru wedi'i ddychwelyd eto, neu gadarnhau a oes mân wahaniaeth sy'n golygu na ellir dod o hyd i gofnod cyfatebol. Er enghraifft, efallai y bydd enw etholwr wedi'i gamsillafu neu efallai y bydd wedi'i newid yn gyfreithiol ers gwneud y cais i gofrestru. Dylech gysylltu â'r etholwr er mwyn gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol fel y gallwch fod yn fodlon mai'r cofnod ar y gofrestr yw'r un person sydd wedi gwneud y cais am bleidlais bost.

Unwaith y bydd y cais wedi mynd drwy'r gwiriad cofrestru yn llwyddiannus, rhaid craffu arno i sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig.5 Os yw'n bodloni'r gofynion, rhaid i chi gadarnhau canlyniad y cais i'r etholwr.6 Pa benderfyniad bynnag a wnewch, rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i roi gwybod iddo.7 Mae ein canllawiau ar gadarnhau canlyniad ceisiadau am bleidlais bost yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
  
Os bydd yn ymddangos bod yr etholwr wedi gwneud camgymeriad wrth gwblhau ei gais am bleidlais bost (er enghraifft, os bydd wedi rhoi ei ddyddiad geni yn y drefn anghywir), dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn iddo ailddarparu'r wybodaeth. Dylech gymryd camau ychwanegol i gysylltu â'r etholwr drwy e-bost neu dros y ffôn lle y bo modd, os yw'n agos at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost cyn etholiad.

Os bydd gennych bryderon o ran uniondeb, dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor a delio â'r ffurflen gais yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a gewch ganddo mewn perthynas â thrin tystiolaeth.

Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn darparu canllawiau ar sut mae defnyddio EROP.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023