Newid neu ganslo pleidlais bost mewn etholiad

Beth fydd yn digwydd os yw'r bleidlais bost eisoes wedi'i dychwelyd?

Gan y gall papurau pleidleisio drwy'r post gael eu dosbarthu i etholwyr o'r dyddiad cau ar gyfer tynnu enw yn ôl, ond nid yw'r dyddiad cau ar gyfer newid trefniadau pleidleisio absennol tan 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, mae darpariaethau fel y gall Swyddog Canlyniadau ganslo papur pleidleisio sydd eisoes wedi'i ddosbarthu.

Er mwyn i'r Swyddog Canlyniadau allu canslo'r papur pleidleisio perthnasol, rhaid i chi roi gwybod iddo pan fyddwch wedi caniatáu:1

  • cais i ganslo trefniadau pleidleisio drwy'r post
  • cais i newid o bleidlais bost i bleidlais drwy ddirprwy
  • cais i bapur pleidleisio drwy'r post gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol

Os bydd unigolyn yn dychwelyd papur pleidleisio drwy'r post sydd wedi'i ganslo neu y bwriedir ei ganslo, rhaid i'r papur pleidleisio, ynghyd ag unrhyw bapurau pleidleisio eraill a ddychwelwyd, y datganiad pleidleisio drwy'r post neu brif amlenni, gael eu hanfon ymlaen at y Swyddog Canlyniadau.2
 
Fodd bynnag, rhaid i chi ddiystyru unrhyw gais i newid dull pleidleisio'r etholwr yn yr etholiad yr anfonwyd y papur pleidleisio drwy'r post ar ei gyfer os bydd yr etholwr yn dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post cyn i chi benderfynu ar y cais newydd (oni bai ei fod wedi'i ddifetha neu'n honni ei fod ar goll neu nad yw wedi'i dderbyn). Os nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau yn yr etholiad, bydd angen i chi gydgysylltu'n agos ag ef er mwyn gwirio'r rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd cyn prosesu unrhyw geisiadau am newidiadau ar ôl i becynnau pleidleisio drwy'r post gael eu hanfon.3
  
Nid oes darpariaethau i'r etholwyr hynny sydd â phleidlais bost mewn etholiad penodol ganslo eu pleidlais bost. Fodd bynnag, gallant newid eu dull pleidleisio drwy gyflwyno cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, a fyddai'n disodli'r cais cynharach am bleidlais bost.

Gall pleidleiswyr post sydd â threfniant pleidleisio drwy'r post tymor hwy ganslo eu pleidlais bost ar unrhyw adeg hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad er mwyn bod yn weithredol yn yr etholiad hwnnw.4  Yr eithriad i hyn yw pan fydd y papur pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau eisoes wedi'i ddychwelyd gan yr etholwr ar gyfer yr etholiad. Mae hyn hefyd yn wir yn achos etholwr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy, lle mae gan ei ddirprwy bleidlais bost a'i fod eisoes wedi pleidleisio ar ran yr etholwr drwy ddychwelyd ei bleidlais ddirprwy drwy'r post wedi'i chwblhau.5

Y broses o ddychwelyd y papur pleidleisio sy'n berthnasol wrth bennu p'un a all etholwr wneud newidiadau i'w drefniadau pleidleisio drwy'r post cyn yr etholiad hwnnw ai peidio. Felly, bydd angen i Swyddogion Canlyniadau sicrhau bod system ar waith a fydd yn eu galluogi i nodi'n brydlon p'un a yw papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023