Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Gwneud cais i bleidlais bost gael ei hanfon i gyfeiriad gwahanol
Fel rhan o gais am bleidlais bost, gall unigolyn ofyn am i'w bapurau pleidleisio drwy'r post gael eu hanfon i gyfeiriad gwahanol i'w gyfeiriad cymhwyso. Gall pleidleiswyr post presennol wneud cais i ailgyfeirio eu pleidlais bost hefyd.
Rhaid i unrhyw gais i ailgyfeirio papurau pleidleisio drwy'r post (oni bai ei fod yn gais gan etholwr sydd wedi'i gofrestru'n ddienw) nodi pam mae angen i'r papur pleidleisio gael ei anfon i'r cyfeiriad hwnnw.1
Mae llawer o amgylchiadau a all beri i unigolyn wneud cais i bleidlais bost gael ei hailgyfeirio: efallai ei fod ar wyliau, yn yr ysbyty, yn gweithio yn rhywle arall, ac ati. Os bydd unigolyn wedi nodi ei fod am i'w bleidlais bost gael ei hailgyfeirio ond nad yw wedi cynnwys unrhyw resymau, dylech ysgrifennu at yr etholwr a gofyn iddo roi esboniad.
Ni all ddweud yn syml am fod yn well gen i hynny. Nid yw hyn yn nodi ei amgylchiadau ac felly nid yw'n rheswm dilys. Yn yr achos hwn, dylech ohirio'r cais a gofyn am ragor o wybodaeth gan yr etholwr. Os na fydd yn ymateb gan nodi ei amgylchiadau, gallwch wrthod y cais ar y sail nad yw'n bodloni'r gofynion rhagnodedig.
Lle rhoddwyd esboniad o'r amgylchiadau, ni allwch wrthod cais am bleidlais bost na chais i ailgyfeirio am nad ydych yn fodlon ar yr esboniad a roddwyd. Os bydd y rheswm yn codi amheuon, neu os bydd gennych bryderon oherwydd amgylchiadau eraill sy'n cysylltu'r cais i ailgyfeirio ag eraill yn yr ardal, neu â chyfeiriad penodol, dylid rhoi gwybod am hyn i'ch Pwynt Cyswllt Unigol (SPOC) yn yr heddlu.
Dylid monitro lefel y pleidleisiau post a gaiff eu hailgyfeirio. Mae'n bwysig bod yn wyliadwrus o batrymau sy'n dod i'r amlwg ymysg ceisiadau i ailgyfeirio. Yn benodol, dylech gytuno â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu ar nifer trothwy o geisiadau a gyfeirir i unrhyw gyfeiriad unigol, ac ystyried hysbysu'r heddlu os cyrhaeddir y trothwy hwn.
Os byddwch yn caniatáu unrhyw gais i ailgyfeirio, rhaid i chi gadarnhau hyn i'r etholwr yn ysgrifenedig. Gallwch wneud hyn yr un pryd ag y byddwch yn cadarnhau p'un a oedd ei gais am bleidlais bost yn llwyddiannus ai peidio. Rhaid anfon yr hysbysiad at yr etholwr yn ei gyfeiriad cofrestredig nid y cyfeiriad ble caiff y papur pleidleisio ei anfon.2
Os byddwch yn caniatáu cais am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a'i fod yn cynnwys cais i ailgyfeirio, yn ogystal â chadarnhau'r ailgyfeiriad i'r etholwr yn ei gyfeiriad cofrestredig, mae'n rhaid i chi hefyd gadarnhau'r dyddiad y daw'r trefniant pleidleisio drwy'r post i ben neu os yw ar gyfer etholiad penodol yn unig.
Os byddwch yn caniatáu cais i ailgyfeirio ar gyfer pleidleisiwr post presennol yn etholiadau Senedd y DU a/neu etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae'n rhaid i'r hysbysiad y byddwch yn ei anfon yn cadarnhau'r ailgyfeiriad gael ei anfon i'r cyfeiriad lle mae'r etholwr wedi'i gofrestru i bleidleisio – nid y cyfeiriad y caiff y papur pleidleisio ei anfon iddo.3
- 1. Rheoliad 51AA, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 57(10), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd) Para 10(1), Atod 3, Gorchymyn Senedd yr Alban (Etholiadau) 2015, Rheoliad 12(5)(a), Rheoliadau Pleidleisio Absennol 2007 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 57(10), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 3