| Argraffu'r canllawiau llawn

Gofynion y broses paru data

Mae’n ofynnol i chi gynnal yr ymarfer paru data o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.1

Er mwyn cyhoeddi hysbysiad cofrestru, mae’n rhaid i chi gael data cyfatebol o ddwy ffynhonnell o leiaf sy’n nodi’r etholwr sydd heb gofrestru.2

Mae data cyfatebol yn cynnwys:3

  • enw llawn yr unigolyn
  • pan mae ar gael, dyddiad geni'r unigolyn
  • cyfeiriad yr unigolyn, gan gynnwys cod post
  • pan mae ar gael, cyfeirnod eiddo unigryw (UPRN) ar gyfer eiddo'r unigolyn
  • unrhyw wybodaeth arall a gedwir sy’n berthnasol i gofnod posibl yr unigolyn ar y gofrestr

Mae eithriad i’r gofyniad i nodi dwy ffynhonnell cyfatebol o ddata pan fo’r wybodaeth sy’n berthnasol i’r unigolyn:4

  • o gofnodion addysg (gan gynnwys data o brifysgolion)
  • yn ddigonol i fodloni’r swyddog cofrestru o ran adnabod hawl yr unigolyn i gofrestru
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026