| Argraffu'r canllawiau llawn

Y rhesymau dros optio allan o’r broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig

Gallwch atal y broses cofrestru awtomatig ar gyfer unigolyn dan yr amgylchiadau canlynol:1

  • mae’r unigolyn wedi ysgrifennu atoch i’ch hysbysu nad yw’n dymuno cofrestru - nid oes angen rheswm
  • nid ydych yn fodlon mwyach bod gan yr unigolyn rydych wedi’i nodi yr hawl i gael ei gofrestru yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol. Gall hyn fod o ganlyniad i gael gwybodaeth gan yr unigolyn ei hun neu fel arall.

    Gallai’r math o wybodaeth a ddarparwyd gynnwys y canlynol:

    • mae unigolyn arall yn cadarnhau nad yw’r unigolyn yn breswylydd yn y cyfeiriad yr anfonwyd yr hysbysiad iddo
    • mae’r unigolyn yn cadarnhau ei fod yn byw mewn cyfeiriad gwahanol a'r cyfeiriad rydych wedi’i nodi yw ei ail gartref neu eiddo rhent ac ni ddylid ei drin fel preswylydd yno
    • mae’r unigolyn wedi symud 
    • mae’r unigolyn wedi marw
  • mae’r unigolyn yn rhoi gwybod i chi ei fod yn dymuno gwneud cais am gofnod dienw ar y gofrestr llywodraeth leol neu mae eisoes wedi gwneud hynny.

Lle mae rhywun yn eich hysbysu ei fod yn dymuno gwneud cais am gofrestriad dienw, dylech anfon ffurflen gais a chanllawiau ato ar y mathau o dystiolaeth neu ardystiad sy’n ofynnol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar gofrestru’n ddienw.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026