| Argraffu'r canllawiau llawn

Yr hysbysiad cofrestru

Cynnwys

Mae’n rhaid i’r hysbysiad cofrestru gynnwys:1

  • eglurhad o’ch dyletswydd i gofrestru’r unigolyn ar ddiwedd y cyfnod hysbysu
  • yr eithriadau i’r ddyletswydd hon, sef:
    • mae’r unigolyn yn eich hysbysu nad yw’n dymuno cael ei gofrestru
    • nid ydych chi’n fodlon mwyach bod ganddo’r hawl i gofrestru - oherwydd gwybodaeth y mae’r unigolyn wedi ei darparu neu wybodaeth arall rydych wedi ei chael
    • mae’r unigolyn yn dymuno gwneud cais am gofnod dienw, neu mae eisoes wedi gwneud hynny
  • gwybodaeth am yr hawl i wneud cais am gofrestriad dienw
  • y math o etholiadau y bydd gan yr unigolyn yr hawl i bleidleisio ynddynt yn sgil cofrestru ar y gofrestr llywodraeth leol a’r rhai a fydd angen cais arall i gofrestru 
  • datganiad bod unrhyw wybodaeth a gasglwyd neu a ddarparwyd at y diben o nodi etholwyr sydd heb gofrestru at y diben o gofrestru pleidleiswyr yn awtomatig wedi’i phrosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data
  • lle mae’r unigolyn dan 16 mlwydd oed, eglurhad o sut y caiff gwybodaeth yr unigolyn ei chadw a’i defnyddio
  • datganiad yn egluro os nad oes gan yr unigolyn yr hawl i gofrestru, bod rhaid iddo hysbysu’r swyddog cofrestru cyn diwedd y cyfnod hysbysu
  • cais yn gofyn os yw unigolyn yn derbyn hysbysiad sydd wedi’i gyfeirio at rywun nad yw’n byw yn y cyfeiriad, ei fod yn rhoi gwybod i chi 
  • dyddiad diwrnod olaf y cyfnod hysbysu
  • gwybodaeth am sut i wneud cais i gofrestru ar y gofrestr seneddol o etholwyr 
  • eich manylion cyswllt.

Fformat

Mae’n rhaid i’r hysbysiad cofrestru gael ei gyflwyno’n ysgrifenedig a’i anfon at yr unigolyn sydd heb gofrestru yn ei gyfeiriad.2

Gall copi o’r hysbysiad hefyd gael ei roi i’r person cyfrifol mewn eiddo a fyddai fel arfer yn disgyn dan y broses ganfasio llwybr 3.3  Dylai hyn fod yn ychwanegol i’r hysbysiad a anfonwyd at yr etholwr yn y cyfeiriad, nid yn ei le. 

Mae’n rhaid i unrhyw nodiadau atgoffa fod yn yr un fformat â’r hysbysiad gwreiddiol.

Hyd y cyfnod hysbysu

Mae’r cyfnod hysbysu yn 28 diwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff yr hysbysiad ei gyflwyno.4

Nid oes unrhyw gyfnod amser wedi’i ragnodi rhwng gorffen y broses paru data a chyhoeddi hysbysiadau, felly gallwch gynllunio hyn yn unol â’ch amgylchiadau lleol. 

Nid oes unrhyw gyfnod gwrthwynebu na gofyniad i roi hysbysiad cyhoeddus o fanylion y bobl a ychwanegwyd at y gofrestr o dan cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig cyn eu cynnwys ar y gofrestr etholiadol. 

Is-etholiadau yn ystod y cyfnod hysbysu

Os oes is-etholiad yn mynd rhagddo yn ystod y cyfnod hysbysu, dylech gysylltu â’r etholwyr sydd heb gofrestru a nodwyd i’w cynghori y bydd angen iddynt gwblhau cais i gofrestru cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, sef 12 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad, i sicrhau eu bod wedi cofrestru erbyn yr etholiad. 

Os oes amser, dylech anfon gwybodaeth gyda’r hysbysiad cofrestru i leihau’r posibilrwydd o ddryswch ymhlith etholwyr. 

Os oes is-etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) neu Senedd y DU wedi’i drefnu, dylech gysylltu ag etholwyr a ychwanegwyd neu sydd ar fin cael eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol gyda marciwr J i’w cynghori nad yw cofrestru awtomatig yn ymestyn i etholiadau Senedd y DU nac etholiadau CHTh ac er mwyn pleidleisio yn yr etholiad bydd angen iddynt gwblhau cais i gofrestru cyn y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer yr etholiad hwnnw. 

Dylech ddisgwyl cael ymholiadau ynghylch yr etholfreintiau gwahanol gan etholwyr. Er mwyn cefnogi hyn, dylai fod gennych wybodaeth ar gael ar eich gwefan a bod eich staff wedi cael hyfforddiant ar y gofynion cofrestru er mwyn ymddangos ar y cofrestrau gwahanol. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Medi 2026