| Argraffu'r canllawiau llawn

Trefniadau trosiannol

Cyflwynodd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Post a Thrwy Ddirprwy ac ati) (Diwygio) 2023 yr angen i geisiadau pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ymgymryd â phrosesu dilysu ID yn ogystal â galluogi ceisiadau i gael eu gwneud ar-lein.

Daeth Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 i rym ar 3 Tachwedd 2026 gan gyflwyno darpariaethau tebyg ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy a wneir ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. 

Ceisiadau newydd a dderbynnir ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym

Mae’n rhaid i’r holl geisiadau pleidlais drwy ddirprwy ar ôl i’r trefniadau ddechrau fodloni’r gofynion newydd sy’n cynnwys gwybodaeth ar gyfer dilysu dynodyddion personol.1

Lle nad yw cais yn cynnwys y wybodaeth ofynnol, dylech, pan fo modd, ymholi i gaffael y wybodaeth sydd ar goll. Os na chaiff y wybodaeth goll ei chyflwyno, ni ellir derbyn y cais. Dylech ysgrifennu at yr etholwr i egluro pam nad yw’r cais wedi cael ei dderbyn ac i egluro sut i wneud cais newydd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Tachwedd 2026