| Argraffu'r canllawiau llawn

Trefniadau pontio ar gyfer ceisiadau pleidleisiau post

Cyflwynodd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Post a Thrwy Ddirprwy ac ati) (Diwygio) 2023 yr angen i geisiadau pleidleisio post ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ymgymryd â phrosesu dilysu ID yn ogystal â galluogi ceisiadau i gael eu gwneud ar-lein. 

Mae Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio Absennol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2026 yn cyflwyno darpariaethau tebyg ar gyfer ceisiadau pleidleisio post a wneir ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. 

Ceisiadau newydd a geir ar neu ar ôl 3 Tachwedd 2026

Mae’n rhaid i’r holl geisiadau am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy’r post a geir ar neu ar ôl 3 Tachwedd 2026 fodloni’r angen i gynnwys gwybodaeth ar gyfer dilysu dynodyddion personol.1

Lle nad yw cais yn cynnwys y wybodaeth ofynnol, dylech, pan fo modd, ymholi i gaffael y wybodaeth sydd ar goll. Os na chaiff y wybodaeth goll ei chyflwyno, ni ellir derbyn y cais. 

Dylech ysgrifennu at yr etholwr i egluro pam nad yw’r cais wedi cael ei dderbyn ac i egluro sut i wneud cais newydd. 

Hysbysu pleidleiswyr post a dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post ar hyn o bryd am yr angen i ail-ymgeisio

Bydd pleidleiswyr post a dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post ar hyn o bryd am yr hirdymor yn parhau i allu pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholiadau’r Senedd a Llywodraeth leol tan naill ai’r dyddiad adnewyddu llofnod, neu 31 Ionawr 2029, pa un bynnag a ddaw’n gyntaf. 

Bydd angen i chi hysbysu’r pleidleiswyr hyn o’r angen i ail-ymgeisio cyn i’w trefniant presennol ddod i ben. 

Mae’n rhaid i’r hysbysiad gynnwys y dyddiad y daw eu hawl bresennol am bleidlais bost i ben a rhoi gwybod iddynt sut i wneud cais newydd cyn y dyddiad hwnnw os ydynt am barhau i bleidleisio drwy’r post.2
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Gorffennaf 2026