Cadarnhau canlyniad cais am bleidlais drwy ddirprwy
Rhaid i chi ysgrifennu at ymgeiswyr i roi gwybod iddynt a yw eu cais wedi cael ei dderbyn1
neu ei wrthod2
. Os caiff cais ei wrthod, rhaid i chi roi'r rheswm/rhesymau dros hyn3
. Mae gweithdrefn apelio ar gyfer ceisiadau am bleidlais absennol sydd wedi cael eu gwrthod.
Pan fyddwch yn caniatáu cais, rhaid i chi gadarnhau bod y dirprwy wedi'i benodi, enw a chyfeiriad y dirprwy a hyd ei benodiad.4
Rhaid rhoi gwybod i'r dirprwy ei fod wedi'i benodi hefyd.5
Os na phenderfynir ar gais ar gyfer etholiadau Senedd y DU/etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu o fewn amserlen a fydd yn caniatáu i’r dirprwy bleidleisio neu tan ar ôl yr etholiad penodol, dylech roi gwybod i'r ymgeisydd na fydd y penderfyniad yn cael ei wneud mewn pryd ar gyfer yr etholiad penodol hwnnw, ond y bydd y bleidlais drwy ddirprwy ar waith ar gyfer etholiadau yn y dyfodol.
Mae ffurf y papur pleidleisio drwy ddirprwy er mwyn cadarnhau penodiad y dirprwy wedi'i rhagnodi.6
Dylech sicrhau bod y llythyr cadarnhau yn nodi i ba etholiadau y mae'r cais am bleidlais drwy ddirprwy yn berthnasol, yn enwedig os nad yw'r bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol. Os nad yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ym mhob etholiad, dylech roi gwybod iddo sut y gall wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer unrhyw etholiadau eraill ac unrhyw ddyddiadau cau perthnasol.
Mae hysbysiadau cadarnhau yn gyfle i ddiogelu rhag twyll posibl, neu gamddealltwriaeth ar ran yr etholwr. Gallwch hefyd benderfynu cydnabod eich bod wedi derbyn ceisiadau. Os bydd etholwr yn cael cydnabyddiaeth am bleidlais bost nad yw wedi gwneud cais amdani, byddai cael y gydnabyddiaeth yn gyfle i'r etholwr gysylltu â chi.
Dylai'r holl ymatebion, ynghyd ag unrhyw hysbysiadau cadarnhau neu gydnabyddiaethau, a gaiff eu dychwelyd fel post heb ei ddosbarthu/ddim yn hysbys yn y cyfeiriad hwn eu monitro ac, os oes gennych bryderon, dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar nodi ceisiadau amheus am bleidlais absennol.
1. Rheoliad 57(1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (RPR) 2001 (fel y'u diwygiwyd), Para, 17(1), Atod. 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 1