| Argraffu'r canllawiau llawn

Rheoli ceisiadau am geisiadau pleidlais bost yng Nghymru.

Ar gyfer gwahanol fathau o etholiad, mae gwahanol ffurflenni cais am bleidlais bost ar gael i'w defnyddio yng Nghymru i gasglu'r wybodaeth ofynnol am gais.
 
Rhaid gwneud ceisiadau am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd Cymru a llywodraeth leol gan ddefnyddio ffurflenni papur, tra gellir gwneud cais am etholiad Senedd y DU neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) naill ai ar-lein neu drwy ddefnyddio ffurflen bapur. Yn ogystal, fel rhan o gais ar gyfer etholiad Senedd y DU neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd mae'n rhaid darparu Rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd, neu reswm pam na ellir ei ddarparu, i'ch galluogi i gyflawni'r dilysiad hunaniaeth gofynnol. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllaw Gwirio hunaniaeth ymgeisydd.

Pan fyddwch yn derbyn cais am ffurflen gais pleidlais bost yng Nghymru bydd angen i chi benderfynu a ydych am anfon ffurflen gais bapur gyfunol neu unigol. Fel arall, yn dibynnu ar sut yr ydych wedi derbyn y cais e.e. cais e-bost neu dros y ffôn, os yw'n briodol, efallai y gallwch eu cyfeirio i wneud cais ar-lein.
 

Beth yw'r ffurflenni cais unigol a chyfunol am bleidlais bost?
 

Mae tri math o ffurflenni cais am bleidlais bost y gellir eu defnyddio yng Nghymru; ffurflenni unigol ar gyfer mathau penodol o etholiad a ffurflen gyfunol i'w defnyddio ar gyfer pob etholiad:

  • Ffurflen gais pleidlais bost unigol ar gyfer pleidleisio drwy'r post mewn etholiadau llywodraeth leol a/neu’r Senedd. 
  • Ffurflen gais pleidlais bost unigol ar gyfer pleidleisio drwy’r post mewn etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau CHTh.
  • Ffurflen gais pleidlais bost gyfunol i bleidleisio drwy'r post mewn etholiadau llywodraeth leol, Senedd Cymru, Senedd y DU a CHTh.

Mae rhai camau i'w cymryd i sicrhau eich bod yn anfon y ffurflen fwyaf priodol at yr etholwr, neu nodi pryd y gallech annog cais ar-lein. Dylech wneud y canlynol:

  • Yn gyntaf, gwiriwch fod yr ymgeisydd wedi'u cofrestru i bleidleisio neu wedi gwneud cais i gael eu cofrestru i bleidleisio. Os nad ydynt wedi gwneud hynny, dylech esbonio bod angen i'r ymgeisydd fod wedi'u cofrestru i bleidleisio a dylech gynnig cyfle iddynt wneud cais i gofrestru ar-lein neu dylech anfon ffurflen gofrestru pleidleisiwr atynt.
  • Yna cadarnhewch yr etholiadau y mae'r etholwr yn gymwys i bleidleisio ynddynt yn seiliedig ar eu hetholfraint
  • Yn olaf, gwiriwch a oes gan yr etholwr drefniant pleidlais bost yn ei le eisoes ac ar gyfer pa etholiadau.

Pryd i anfon ffurflen gais unigol i’w defnyddio yn etholiadau’r Senedd a/neu lywodraeth leol.

Pan fyddwch yn derbyn cais am ffurflen gais pleidlais bost, gallwch benderfynu anfon y ffurflen gais papur unigol hon ar gyfer pleidlais bost at etholwr os: 

  • ydynt yn wladolion tramor cymwys sy'n gymwys i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yn unig
  • nad oes ganddynt drefniant pleidleisio drwy’r post yn ei le ar hyn o bryd, a’ch bod yn cael cais ar-lein am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU ond mae’r etholwr hefyd yn gymwys i wneud cais ar wahân i bleidleisio drwy’r post mewn etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol. Gall hyn hefyd gael ei effeithio ar os ydynt wedi gofyn am bleidlais bost un-tro neu bleidlais bost sydd â therfyn amser, gall pa mor agos yw’r bleidlais hefyd gael effaith ar hyn.  

Pryd i anfon ffurflen gais unigol i'w defnyddio mewn etholiad Senedd y DU a/neu CHTh, neu gyfeirio i’r broses ymgeisio ar-lein.

Pan fyddwch yn derbyn cais am ffurflen gais pleidlais bost, gallwch benderfynu anfon y ffurflen gais papur unigol hon ar gyfer pleidlais bost at etholwr os:

  • ydynt yn etholwr tramor yn gymwys i bleidleisio mewn etholiad Senedd y DU yn unig
  • eisoes â threfniant pleidlais bost yn bodoli ar gyfer y etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol ond nid ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Pryd i anfon ffurflen gyfunol i'w defnyddio ar gyfer etholiadau Senedd y DU, CHTh, Senedd Cymru a llywodraeth leol

Pan fyddwch yn derbyn cais am ffurflen gais pleidleisio drwy’r post, gallwch benderfynu anfon ffurflen gais papur cyfunol am bleidlais bost at etholwr os:

  • ydynt wedi'u cofrestru ac yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, CHTh, Senedd Cymru a llywodraeth leol
  • nid oes ganddynt drefniant pleidleisio drwy'r post yn barod
  • mae eu henw wedi newid ar y gofrestr 
  • mae eu trefniant pleidleisio drwy'r post presennol yn dod i ben


Mae gennym hefyd ganllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar reoli cadarnhad o ganlyniadau ceisiadau am bleidlais bost.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Mawrth 2026