Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Cymhwysedd i bleidleisio drwy’r post
Dylech sicrhau bod etholwyr yn cael eu gwneud yn ymwybodol bod ganddynt yr opsiwn i bleidleisio drwy’r post, drwy ddirprwy neu wyneb yn wyneb. Bydd hyn eu caniatáu i wneud dewis ar sail gwybodaeth ynghylch yr opsiwn sydd fwyaf priodol i'w hamgylchiadau.
Mae gan etholwyr sydd wedi cofrestru, neu a fydd wedi cofrestru, yr hawl i wneud cais i bleidleisio drwy’r post. Er mwyn i rywun fodloni’r meini prawf “bydd wedi cofrestru”, mae’n rhaid i’r cyfnod gwrthwynebu o bum diwrnod fod wedi mynd heibio ac mae’n rhaid i chi fod wedi penderfynu’n gadarnhaol ar ei gais cofrestru, sy’n golygu y caiff ei ychwanegu at y gofrestr wrth gyhoeddi’r hysbysiad addasu nesaf neu wrth gyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag a ddaw’n gyntaf.1
Nid oes unrhyw ofyniad i etholwr roi rheswm dros pam y mae eisiau pleidleisio drwy’r post.
Hyd at 3 Tachwedd 2026, bydd yr hyd y gall y trefniant fod ar waith yn wahanol yn ddibynnol ar fath y bleidlais y gwneir ceisiadau ar ei gyfer.
Ar gyfer ceisiadau a geir hyd at 3 Tachwedd 2026
Yn ddibynnol ar fath yr etholiad y mae ar ei gyfer, gall trefniant pleidlais bost fod ar waith ar gyfer:
• pleidlais benodol (ar gyfer pleidlais a gynhelir ar ddyddiad penodol)
• cyfnod penodol (ni all fod yn hirach na 3 blynedd ac mae ganddo ddyddiad dechrau a dyddiad gorffen, er enghraifft o DD/MM/BB tan DD/MM/BB)
• trefniant pleidlais bost tymor hwy y bydd yr amser y mae ar waith yn amrywio yn dibynnu ar fath yr etholiad y caiff y cais ei wneud ar ei gyfer.
Os yw etholwr yn gwneud cais i bleidleisio drwy’r post am gyfnod penodol sydd y tu hwnt i’r cyfnod hiraf, dylech ganiatáu’r cais am y cyfnod hiraf posibl. Dylech gadarnhau’r dyddiad y bydd y trefniant pleidlais bost yn dod i ben ar y llythyr cadarnhau a anfonir at yr etholwr.
Ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol
Gall trefniant pleidlais bost etholwr fod ar waith am gyfnod amhenodol, ond ar ôl 5 mlynedd bydd y llofnod pleidlais bost yn cael ei ddiweddaru. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar gael yn ein canllawiau ar reoli’r prosesau diweddaru.
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sy’n deillio o drefniant Senedd y DU
Ni all y cyfnod hiraf fod yn hirach na 3 blynedd a daw i ben ar y trydydd 31 Ionawr a gaiff ei gyfrifo o’r dyddiad y caniateir y cais. Mae’n rhaid i chi gysylltu ag etholwyr yr effeithir arnynt a’u gwahodd i ail-ymgeisio cyn y dyddiad hwn.2 Mae rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar gael yn ein canllawiau ar y broses ail-ymgeisio.
Ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Bydd angen i gais ar wahân gael ei wneud gan unrhyw un o’r unigolion canlynol:
• Dinesydd yr Undeb Ewropeaidd neu arglwydd na fydd yn cael pleidlais bost yn awtomatig ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gan na fydd ganddynt drefniant Senedd y DU oherwydd anghymhwyster
• Dinasyddion Prydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad sydd â threfniadau pleidlais bost ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol ond nid etholiadau Senedd y DU
• Dinasyddion Prydain, Iwerddon neu’r Gymanwlad nad oes ganddynt drefniadau pleidleisio post ar hyn o bryd ac nad ydynt yn dymuno cael trefniant pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholiadau Senedd y DU
Ar gyfer ceisiadau a geir ar neu ar ôl 3 Tachwedd 2026
Gall trefniant pleidlais bost fod ar waith ar gyfer un o’r pethau canlynol:
• pleidlais benodol
• cyfnod penodol
• cyfnod hiraf o hyd at 3 blynedd
Mae pleidlais benodol yn golygu pleidlais a gynhelir ar ddyddiad penodol.
Ni all cyfnod penodol fod yn hirach na 3 blynedd ac mae ganddo ddyddiad dechrau a dyddiad gorffen - er enghraifft:
O: DD/MM/BB tan DD/MM/BB
Ar gyfer etholwyr cartref, ni all y cyfnod hiraf fod yn hirach na 3 blynedd a daw i ben ar y trydydd 31 Ionawr a gaiff ei gyfrifo o’r dyddiad y caniateir y cais. Mae’n rhaid i chi gysylltu ag etholwyr yr effeithir arnynt a’u gwahodd i ail-ymgeisio cyn y dyddiad hwn.3 Mae rhagor o wybodaeth ynghylch hyn ar gael yn ein canllawiau ar y broses ail-ymgeisio.
Os yw etholwr cartref yn gwneud cais i bleidleisio drwy’r post am gyfnod penodol sydd y tu hwnt i’r cyfnod hiraf, dylech ganiatáu’r cais am y cyfnod hiraf posibl. Mae’n rhaid i’r dyddiad y bydd y trefniant pleidlais bost yn dod i ben gael ei gadarnhau yn ei lythyr cadarnhau.4
Trefniadau pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr tramor
Mae trefniant pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwr tramor yn uniongyrchol gysylltiedig â’i gofrestriad etholiadol a daw i ben ar y trydydd 1 Tachwedd a gaiff ei gyfrifo o’r dyddiad y caiff ei ychwanegu at y gofrestr, neu ei ddiweddaru ar y gofrestr.
Daw unrhyw drefniant pleidleisio post ar gyfer etholwr tramor i ben pan ddaw ei gofrestriad etholiadol i ben, waeth pa ddyddiad gafodd y cais am bleidlais bost ei wneud. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar reoli’r broses adnewyddu cofrestriadau etholwyr tramor.
Os daw cais newydd am bleidlais bost i law yn annibynnol o ddatganiad adnewyddu gan etholwr tramor yn ystod y cyfnod adnewyddu, dylech wirio a yw’r etholwr wedi gwneud cais newydd ar gyfer etholwr tramor. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech gysylltu â’r etholwr tramor i gadarnhau a yw’n dymuno adnewyddu ei ddatganiad. Os yw’n dymuno gwneud hynny, dylech aros amdano a’i brosesu cyn y cais am bleidlais bost.
Os na allwch gael cadarnhad gan yr etholwr, dylech brosesu’r cais am bleidlais bost heb y datganiad adnewyddu ac egluro i’r etholwr y bydd yn gymwys tan ddiwedd y cyfnod datgan presennol yn unig (h.y. hyd at yr 1 Tachwedd perthnasol). Os daw datganiad adnewyddu i law wedi hynny, byddai angen i’r etholwr tramor wneud cais newydd i’r bleidlais bost barhau y tu hwnt i’r cyfnod datgan presennol.
Trefniadau pleidleisio drwy’r post ar gyfer etholwyr sy’n agosáu at eu pen-blwydd 18
Dylech gysylltu ag unigolion 16 a 17 mlwydd oed sydd â threfniant pleidlais bost ar waith ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol pan fyddant yn cyrraedd 18 mlwydd oed.
Dylai eich gwaith cyfathrebu:
• egluro nad yw eu trefniant pleidlais bost presennol yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU nac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
• egluro os ydynt yn dymuno pleidleisio drwy’r post yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen iddynt wneud cais am bleidlais bost
• roi gwybodaeth iddynt ynghylch sut i wneud cais am bleidlais drwy’r post
- 1. Adrannau 9(2), 10ZC(1), 13 a 13A, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983; Paragraff 3(1) a 4(1), Atodlen 4, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000, Erthygl 7, SOCA 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 60ZA(2), Rheoliad Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (RPR) 2001 (fel y’i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 60ZA (2), RPR 2001 (fel y’i diwygiwyd), Paragraff 15A, Atodlen 1, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (SCO 2025) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 60ZA (2), RPR 2001 (fel y’i diwygiwyd), Paragraff 15A, Atodlen 1, SCO 2025 ↩ Back to content at footnote 4