Rhaid i unrhyw un sy'n gwneud cais newydd i gofrestru am bleidlais bost ar gyfer etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gyflwyno dynodyddion personol a gaiff eu defnyddio i gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau.1
Rhaid ystyried canlyniadau'r gwiriadau hyn, a fydd yn ymddangos yn y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol, wrth benderfynu ar y cais.2
Os na ellir cadarnhau pwy yw ymgeisydd gan ddefnyddio cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, dylech ddilyn y broses eithriadau neu, os na wneir hynny, y broses ardystio.3
Yn wahanol i geisiadau i gofrestru i bleidleisio a cheisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr, ni chewch ddefnyddio data lleol i ddilysu ceisiadau am bleidlais bost.
1. Rheoliad 56B, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Para 16B, Atod 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 1
2. Rheoliad 56B (9), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Para 16B(9), Atod 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 2
3. Rheoliad 56C, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd), Para 16C, Atod 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 3