Gofynion o ran llun

Mae'n rhaid i gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw gynnwys llun sy'n bodloni'r gofynion canlynol hefyd1

Rhaid i'r llun fodloni'r amodau canlynol:

  • llun agos o ben ac ysgwyddau'r ymgeisydd
    • ni all unrhyw berson arall fod yn y llun
    • rhaid i'r pen beidio â chael ei orchuddio mewn unrhyw ffordd oni bai fod hyn oherwydd credoau crefyddol neu am resymau meddygol
  • mewn ffocws ac yn eglur 
  • mewn lliw ac wedi'i dynnu yn erbyn cefndir, golau plaen
  • heb lygaid coch, cysgodion ar yr wyneb, nac adlewyrchiadau
  • heb ei ddifrodi 
  • yn wirioneddol debyg i'r ymgeisydd, heb ei newid na'i drin 

Rhaid i'r llun ddangos yr ymgeisydd:

  • yn wynebu ymlaen
  • heb unrhyw beth yn gorchuddio'r wyneb - mae hyn yn cynnwys gorchudd pen a wisgir am resymau crefyddol
  • yn edrych yn syth ar y camera
  • â mynegiant wyneb plaen 
  • â llygaid ar agor ac yn weladwy (e.e. heb sbectol haul a heb eu cuddio â gwallt, ac ati).

Os bydd yr ymgeisydd yn nodi yn ei gais na all, oherwydd unrhyw anabledd, ddarparu llun sy'n cydymffurfio â'r gofynion i ddangos mynegiant wyneb plaen ac i'w lygaid fod ar agor ac yn weladwy, gellir diystyru'r gofynion hynny2
 
Os caiff y cais ei wneud ar bapur, yn bersonol neu dros y ffôn, rhaid i'r llun a ddarperir fod: 

  • o leiaf 45 milimetr o uchder a 35 milimetr o led 
  • yn ddim mwy na 297 milimetr o uchder na 210 milimetr o led.

Os caiff y cais ei wneud drwy'r gwasanaeth digidol, rhaid i'r llun fod:

  • o leiaf 750 picsel o uchder a 600 picsel o led 
  • mewn ffeil electronig mewn fformat llun safonol megis JPEG, PNG neu GIF nad yw'n fwy na 20MB o faint.

Sut y gellir cyflwyno lluniau?

Gellir lanlwytho lluniau i GOV.UK  pan wneir y cais ar-lein. Bydd canllawiau a llun enghreifftiol ar gael i helpu ymgeiswyr i ddarparu llun derbyniol. 
 
Bydd angen i luniau a ddarperir gyda cheisiadau a gyflwynir ar bapur neu drwy e-bost gael eu sganio neu eu lawrlwytho a'u cadw mewn fformat safonol megis JPEG, PNG neu GIF ac yna eu lanlwytho i EROP fel y gellir eu hychwanegu at y cais. Mae'n rhaid i'r lluniau hyn fodloni'r gofynion sylfaenol o ran picsel hefyd a bod o'r maint cywir a'r math cywir o ffeil. 
 
Byddwch yn gallu tocio neu droi'r lluniau yn EROP pan fyddwch yn eu lanlwytho gan ddefnyddio cymhareb sefydlog er mwyn sicrhau bod y llun o'r maint cywir i'w argraffu ar y dystysgrif. 

Bydd angen adolygu pob llun yn EROP er mwyn cadarnhau bod yr wyneb yn weladwy a'i fod yn bodloni'r gofynion.

Sut y caiff lluniau eu gwirio er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r gofynion?

Bydd lluniau a ddarperir fel rhan o gais ar-lein:

  • nad ydynt yn bodloni'r gofynion sylfaenol o ran picsel
  • sydd o'r math anghywir o ffeil
  • sydd mewn ffeil sy'n rhy fawr neu'n rhy fach

yn cael eu gwrthod a gofynnir i ymgeiswyr lanlwytho llun arall.

Os byddwch yn cael llun ar ffurf copi caled gyda chais papur nad yw o ansawdd digonol i'w sganio, neu lun mewn atodiad e-bost: 

  • nad yw'n bodloni'r gofynion sylfaenol o ran picsel
  • sydd o'r math anghywir o ffeil
  • sydd mewn ffeil sy'n rhy fawr neu'n rhy fach

dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn iddo ddarparu llun gwahanol o ansawdd gwell a/neu lun sy'n cydymffurfio â'r gofynion uchod.

Rheoli lluniau sydd wedi’u cyflwyno

Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod lluniau’n cael eu rheoli’n gyson a’u prosesu i facsimeiddio eu defnyddioldeb:

  • cyn gwneud penderfyniad ar ddefnyddioldeb llun, gallwch brofi sut y byddai’r llun yn edrych ar y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu’r Ddogfen Etholwr Dienw drwy argraffu copi enghreifftiol
  • defnyddio’r offeryn golygu o fewn EROP i dorri lluniau er mwyn cael gwared ar wrthrychau a allai ymddangos yn y cefndir
  • defnyddio panel o staff i wneud unrhyw benderfyniadau heriol drwy gynnwys staff o’r tîm ehangach neu gydweithwyr o’ch awdurdod lleol, gan ddefnyddio arbenigedd o ardaloedd eraill
  • sefydlu dogfen sy’n nodi sut bydd y lluniau’n cael eu hasesu a’u prosesu, y bydd bodd ei diweddaru i gynnwys enghreifftiau o benderfyniadau wrth iddynt godi.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ebrill 2023