Pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr?

Mae'n rhaid i gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr gynnwys y wybodaeth ganlynol:1  

  • enw llawn yr ymgeisydd
  • y cyfeiriad lle mae'r ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio, neu lle mae wedi gwneud cais i gofrestru neu, yn achos etholwyr categori arbennig, eu cyfeiriad presennol/gohebiaeth/rhif BFPO (y cyfeiriad dosbarthu perthnasol ym mhob achos)
  • dyddiad geni'r ymgeisydd neu, os na all ei ddarparu, y rheswm pam na all wneud hynny a datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd o dan 18 oed ac, os felly, nodyn i roi gwybod a ydynt o dan 16 oed, neu'n 16 neu'n 17 oed 
  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all ddarparu'r wybodaeth honno, y rheswm pam na all wneud hynny a datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd o dan 16 oed ac, os felly, nid oes angen darparu rhif Yswiriant Gwladol
  • datganiad ynghylch a yw'r ymgeisydd yn ystyried bod angen casglu'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn bersonol yn hytrach na'i dosbarthu i'r cyfeiriad dosbarthu perthnasol ac, os felly, y rheswm pam mae'r ymgeisydd yn ystyried bod angen ei chasglu 
  • nodyn ynghylch a oes angen esboniad Braille, hawdd ei ddeall neu brint mawr o'r ddogfen ar yr ymgeisydd os caiff y cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ei ganiatáu
  • datganiad sy'n nodi bod y wybodaeth yn y cais yn gywir (yn ymarferol, ar bapur, mae hyn yn cynnwys llofnod neu o leiaf farc ar y ffurflen sy'n dangos bod yr ymgeisydd wedi gwneud y datganiad)
  • dyddiad y cais


Mae'n rhaid i gais gynnwys llun addas o'r ymgeisydd hefyd neu rhaid rhoi rheswm pam nad yw'n gallu gwneud hynny2 .  

Rhaid ystyried bod y cais yn anghyflawn os na chaiff unrhyw un o'r pethau uchod eu darparu. Dylech ofyn i'r ymgeisydd am y wybodaeth goll.

Gall cais gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ymgeisydd hefyd, ond nid yw hyn yn ofynnol3 .

Os na all ymgeisydd ddarparu rhif Yswiriant Gwladol, gall ddarparu gyda'i gais gopi o'r dogfennau a restrir yn y rhestr o ddogfennau a dderbynnir ar gyfer y broses eithriadau4 .  

Os caiff y dogfennau hyn eu darparu, gellir eu defnyddio i gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad neu ddeiseb er mwyn sicrhau y gellir prosesu cais yn ddi-oed. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2022