Helpu ymgeiswyr i ddarparu llun addas

Mae'n bosibl y bydd angen cymorth ar yr ymgeisydd i ddarparu llun gyda'i ffurflen gais bapur. 

Gallai'r mathau o gymorth gynnwys:

  • tynnu llun ohono'i hun 
  • deall y gofynion penodol ar gyfer y llun
  • lanlwytho llun er mwyn anfon drwy e-bost 

Gallech gynghori ymgeisydd i gyflwyno ei gais papur â llaw a gwneud trefniadau i dynnu ei lun pan fydd yn cyflwyno'r ffurflen. 

Bydd angen i chi ddarparu ardal er mwyn tynnu'r lluniau hyn, gyda chefndir plaen. Yn achos etholwyr y gall fod angen iddynt dynnu gorchudd wyneb at ddiben y llun, bydd angen i chi ystyried hefyd sut y gallwch ddarparu:

  • ardal breifat
  • aelod o staff y mae'r unigolyn yn gyfforddus yn tynnu gorchudd wyneb o'i flaen 
  • drych er mwyn rhoi gorchudd wyneb yn ei ôl ar ôl tynnu llun

Os bydd yr ymgeisydd yn adnabod rhywun a all ei helpu drwy dynnu llun, megis aelod o'r teulu, gofalwr, neu weithiwr cymorth, gallech ei gynghori i gyflwyno'r cais papur â llaw, drwy'r post neu'n electronig drwy e-bost ac yna anfon copi wedi'i sganio neu lun digidol o'r llun drwy e-bost. Mae'n bwysig bod unrhyw lun neu ffeil yn dangos yn glir i ba ymgeisydd y mae'n perthyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022