Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Ychwanegu etholwyr a nodwyd at y gofrestr llywodraeth leol
Ar ôl diwedd y cyfnod hysbysu o 28 diwrnod ac yn absenoldeb unrhyw gais i optio allan, rhaid i chi ychwanegu'r person a nodwyd gennych at y gofrestr etholwyr llywodraeth leol.1
Lle bo modd, bydd trefnu i'r cyfnod hysbysu ddod i ben ar adeg sy'n cyd-fynd â'r dyddiad cau ar gyfer cael ei gynnwys yn yr hysbysiad misol nesaf o newid neu mewn cofrestr ddiwygiedig yn helpu i leihau unrhyw ddryswch ymhlith etholwyr ynghylch eu hawl i bleidleisio a phryd y mae'r hawl honno'n dechrau.
Os caiff person ei ychwanegu at y gofrestr drwy hysbysiad misol o newid, bydd yr hysbysiad y bydd yn ymddangos ynddo yn dibynnu ar pryd y daeth y cyfnod hysbysu o 28 diwrnod i ben:
- os daeth i ben cyn y dyddiad cau ar gyfer cael ei gynnwys yn yr hysbysiad misol nesaf o newid, bydd y person yn ymddangos yn yr hysbysiad hwnnw
- os daeth i ben ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cael ei gynnwys yn yr hysbysiad misol nesaf o newid, bydd y person yn ymddangos yn hysbysiad misol y mis canlynol o newid2
Mae’n rhaid i etholwyr a gofrestrwyd drwy unrhyw broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gael eu hychwanegu at y gofrestr llywodraeth leol gyda marciwr J.2 Mae’r marciwr J ar ei ben ei hun yn dangos nad oes unrhyw ddata cenedligrwydd yn cael ei gadw ar gyfer yr unigolyn hwnnw ac nid yw’n gymwys i bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU nac etholiadau CHTh nes ei fod wedi cwblhau’r broses gwahoddiad i gofrestru a chadarnhau ei fod o genedligrwydd cymwys.
Os yw data cenedligrwydd ar gael i chi sy’n dangos bod etholwr yn ddinesydd tramor cymwys, bydd yr etholwr hefyd yn cael marciwr M.3 Fodd bynnag, ni ellir defnyddio unrhyw ddata cenedligrwydd i ymestyn etholfraint etholwyr y tu hwnt i’r gofrestr llywodraeth leol heb gwblhau cais i gofrestru.
Nid oes unrhyw ofyniad i gyhoeddi hysbysiad arall ar ôl ychwanegu at y gofrestr. Nid oes unrhyw ofyniad i optio etholwyr allan o fersiwn olygedig / agored o’r gofrestr llywodraeth leol, gan nad yw’n bodoli yng Nghymru mwyach.4
Ni ddylech ychwanegu unigolyn at y gofrestr os nad ydych yn fodlon mwyach bod ganddo’r hawl i gofrestru, oherwydd gwybodaeth a ddarparwyd gan yr unigolyn neu fel arall.
Mae’n ofynnol i chi gadw rhestr ar wahân o etholwyr sydd wedi’u cofrestru drwy’r broses cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig.5
Effeithiau ar bleidleisio absennol
Ni all unigolyn gyda marciwr J gael ei benodi’n ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU.6 Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar y cymwysterau ar gyfer gweithredu fel dirprwy.
Effeithiau ar y canfasiad
Gall etholwyr gyda marciwr J gael eu hanfon ar gyfer paru data, oni bai eu bod yn disgyn dan gategori eithriedig, ond bydd angen i unrhyw gartrefi sy’n cynnwys unigolion gyda marciwr J gael eu hanfon ar hyd Llwybr 2 er mwyn i wybodaeth am genedligrwydd allu cael ei chasglu.
Bydd angen rhoi gwybodaeth i etholwyr marciwr J yn dweud er gwaethaf y ffaith eu bod yn ymddangos ar y ffurflen ganfasio, gan fod eu cenedligrwydd ar goll, mae angen iddynt ddarparu’r wybodaeth hon ac os ydynt o genedligrwydd cymwys, bydd angen iddynt gwblhau gwahoddiad i gofrestru i gael cofrestru ar gyfer etholiadau Senedd y DU.
Os yw’r wybodaeth genedligrwydd a ddarparwyd i chi ar y ffurflen ganfasio yn dangos bod yr etholwr yn ddinesydd tramor cymwys, gallwch ychwanegu marciwr M ac atal unrhyw gylch mynd ar drywydd gwahoddiad i gofrestru.
Bydd angen i chi barhau i roi unrhyw eiddo gydag etholwyr marciwr J ar y llwybr canfasio 2 a pharhau gydag unrhyw gylchoedd mynd ar drywydd gwahoddiad i gofrestru tan eich bod yn gallu sefydlu’r etholfraint briodol yn gyfan gwbl.
Bydd gan y gofynion a’r ystyriaethau ychwanegol hyn oblygiadau o ran cost y mae angen i chi eu cynnwys yn eich gwaith cynllunio cyllideb.
- 1. Adran 9ZA(5) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. adran 13A(2)(a) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983↩ Back to content at footnote 2 a b
- 3. Rheoliad 42(3A), RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. O ganlyniad i’r newidiadau i’r RPR 2001 a wnaed gan Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cael Gwared ar y Gofrestr Olygedig) (Cymru) (Rheoliadau) 2026 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 9ZA(7), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Paragraff 6(3), atodlen 4, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 ↩ Back to content at footnote 6