Gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol ynghylch datganiad o gysylltiad lleol

Mae'r adran hon yn gymwys pan oedd ymgeisydd:

  • wedi'i gofrestru'n flaenorol drwy ddatganiad o gysylltiad lleol 1  
  • ar y diwrnod olaf pan oedd y person yn byw yn y DU, nid oedd yn breswylydd mewn cyfeiriad ond gallent fod wedi gwneud datganiad o gysylltiad lleol mewn perthynas â chyfeiriad o'r fath  2

Os, ar ôl gofyn i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol, na fyddwch yn fodlon o hyd fod ymgeisydd wedi'i gofnodi'n flaenorol ar gofrestr etholiadol drwy ddatganiad o gysylltiad lleol, neu y gallai fod wedi'i gofnodi, mewn perthynas â'r cyfeiriad perthnasol, oherwydd naill ai:  

  • nid yw'r ymgeisydd wedi gallu darparu dogfen o'r rhestr o dystiolaeth dderbyniol  y mae'n rhaid ei derbyn  3
  • rydych wedi cael dogfennau amgen sy'n bodloni'r gofyniad tystiolaethol ond rydych yn anfodlon o hyd  

gallwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu naill ai: 

  • tystiolaeth ddogfennol ychwanegol 
  • ardystiad o gysylltiad lleol a wnaed gan ardystiwr cymwys

Tystiolaeth ddogfennol ychwanegol

Rhaid i'r dystiolaeth hon fod naill ai'n gopi (neu'n fersiwn wreiddiol) o unrhyw ddogfennau sy'n:

  • dangos enw llawn yr ymgeisyd 4
  • cadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran cysylltiad lleol. 5  

Ardystio cysylltiad lleol

Fel arall, gall yr ymgeisydd ddarparu ardystiad o gysylltiad lleol  gan ardystiwr cymwys y mae'n rhaid iddo: 6  

  • gadarnhau ar ba sail roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran cysylltiad lleol 7  
  • nodi rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys 8

Y gofyniad o ran cysylltiad lleol yw bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol drwy ddatganiad o gysylltiad lleol oherwydd ei fod: 

  • yn berson heb gartref sefydlog
  • yn glaf mewn ysbyty iechyd meddwl a oedd yno'n ddigon hir i ystyried ei fod yn byw yno
  • yn garcharor ar remand mewn sefydliad cosbi a oedd yno'n ddigon hir i ystyried ei fod yn byw yno
  • neu wedi bod, yn blentyn a oedd yn derbyn gofal neu'n cael ei gadw mewn llety diogel. 9

Ardystio cysylltiad â chyfeiriad perthnasol

Os byddwch yn anfodlon o hyd ar ôl gofyn am dystiolaeth ychwanegol neu ardystiad o gysylltiad lleol gan ardystiwr cymwys, efallai y byddwch am ofyn i'r ymgeisydd ardystio cysylltiad â chyfeiriad perthnasol. 10

Rhaid i'r ardystiad o gysylltiad â chyfeiriad perthnasol gynnwys:

  • cadarnhad bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran cysylltiad â chyfeiriad perthnasol
  • rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys 

Y gofyniad o ran cysylltiad â chyfeiriad perthnasol yw: 11

  • y byddai'r ymgeisydd wedi bod yn byw yn y cyfeiriad perthnasol pe na bai'r ymgeisydd wedi bod yn glaf neu wedi'i gadw mewn sefydliad
  • bod y cyfeiriad perthnasol yn, neu'n agosaf at, fan yn y DU lle roedd yr ymgeisydd yn treulio cryn dipyn o'i amser yn aml (boed hynny yn ystod y dydd neu'r nos)

Mae ein canllawiau ar Ardystio cyfeiriad yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ofynion ardystiad.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023