Gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol gan ymgeiswyr a oedd yn bleidleiswyr yn y lluoedd arfog neu'n fasnachlongwyr amhreswyl yn flaenorol

Mae'r adran hon yn gymwys pan oedd ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol drwy ddatganiad gwasanaeth 1  neu wedi'i gofrestru ar y sail ei fod yn cael ei drin fel pe bai'n byw mewn cyfeiriad perthnasol (masnachlongwyr amhreswyl).  2

Os, ar ôl gofyn i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol, na fyddwch yn fodlon o hyd fod ymgeisydd wedi'i gofnodi'n flaenorol ar gofrestr etholiadol mewn perthynas â'r cyfeiriad perthnasol, oherwydd naill ai:  

  • nid yw'r ymgeisydd wedi gallu darparu dogfen o'r rhestr o dystiolaeth dderbyniol y mae'n rhaid ei derbyn   
  • rydych wedi cael dogfennau amgen sy'n bodloni'r gofyniad tystiolaethol ond rydych yn anfodlon o hyd  

gallwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu naill ai: 

  • tystiolaeth ddogfennol ychwanegol 
  • ardystiad o statws cofrestru a wnaed gan ardystiwr cymwys

Tystiolaeth ddogfennol ychwanegol

Rhaid i'r dystiolaeth hon fod naill ai'n gopi (neu'n fersiwn wreiddiol) o unrhyw ddogfennau sy'n:

  • dangos enw llawn yr ymgeisydd  3
  • gallu cael eu defnyddio i gadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran statws cofrestru.  4

Ardystio statws cofrestru 

Fel arall, gall yr ymgeisydd ddarparu ardystiad o statws cofrestru gan etholwr cymwys 5  y mae'n rhaid iddo gynnwys: 

  • cadarnhad o ba un o'r gofynion o ran statws cofrestru 6  a fodlonwyd gan yr ymgeisydd
  • rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys 7

Y gofyniad o ran statws cofrestru yw bod gan yr ymgeisydd gymhwysedd gwasanaeth oherwydd ei fod:

  • yn aelod o Luoedd EF 
  • wedi'i gyflogi fel un o weision y Goron neu aelod o staff y British Council 
    neu fod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru drwy ddatganiad o gysylltiad lleol fel masnachlongwr. 

Ardystio cysylltiad â chyfeiriad perthnasol

Os byddwch yn anfodlon o hyd ar ôl gofyn am dystiolaeth ychwanegol neu ardystiad o statws cofrestru gan ardystiwr cymwys, efallai y byddwch am ofyn i'r ymgeisydd ardystio cysylltiad â chyfeiriad perthnasol.

Rhaid i'r ardystiad o gysylltiad â chyfeiriad perthnasol gynnwys:

  • cadarnhad bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran cysylltiad â chyfeiriad
  • rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys.

Y gofyniad o ran cysylltiad â chyfeiriad perthnasol yw:

  • y byddai'r ymgeisydd wedi bod yn byw yn y DU pe na bai wedi bod yn gwasanaethu fel aelod o'r lluoedd arfog 
  • byddai wedi bod yn byw yn y cyfeiriad perthnasol oni bai am ei alwedigaeth fel masnachlongwr neu roedd yn aros yn aml yn y cyfeiriad perthnasol a oedd yn westy neu'n glwb i fasnachlongwyr yn ystod ei alwedigaeth fel masnachlongwr 
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023