Sut i ddefnyddio'r broses ardystio cyfeiriad ar gyfer cais etholwr tramor

Mae'n bosibl y byddwch yn gofyn i ymgeisydd ardystio'r cyfeiriad os byddwch yn ystyried bod angen tystiolaeth ychwanegol er mwyn bod yn fodlon bod gan ymgeisydd gysylltiad blaenorol â'r cyfeiriad perthnasol. 1

Rhaid i ardystiad cyfeiriad:2

  • gadarnhau bod yr ymgeisydd yn arfer byw yn y cyfeiriad perthnasol 3
  • nodi rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn byw yn y cyfeiriad hwnnw, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys 4
  • bod yn ysgrifenedig ac wedi'i lofnodi gan yr ardystiwr cymwys 5
  • nodi enw llawn yr ardystiwr cymwys, ei ddyddiad geni, ei alwedigaeth, ei gyfeiriad preswyl ac (os yw’n wahanol) y cyfeiriad y mae wedi’i gofrestru fel etholwr ynddo6  
  • nodi 7 – 
    • rhif pasbort Prydeinig yr ardystiwr cymwys ynghyd â'i ddyddiad a'r man lle cafodd ei gyhoeddi, os yw'r ardystiwr yn etholwr tramor
    • rhif etholiadol yr ardystiwr os yw'r ardystiwr cymwys yn etholwr domestig neu'n bleidleisiwr yn y lluoedd arfog [neu Rif Cofrestru Digidol yr ymgeisydd os yw'r ardystiwr cymwys wedi'i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon]
  • cynnwys esboniad o allu'r ardystiwr i gadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad perthnasol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) cysylltiad yr ardystiwr â'r ymgeisydd ac am ba hyd y mae'r cysylltiad hwnnw wedi bodoli8  
  • cynnwys arwydd bod yr ardystiwr cymwys yn ymwybodol ei bod hi’n drosedd darparu gwybodaeth ffug i’r swyddog cofrestru9
  • cynnwys datganiad gan yr ardystiwr cymwys bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn yr ardystiad yn wir10
  • nodi'r dyddiad y gwnaed yr ardystiad?11

Pan fyddwch yn gofyn i ymgeisydd ddarparu ardystiad cyfeiriad, dylech ysgrifennu ato i gyfleu'r gofynion deddfwriaethol ar gyfer ardystiad cyfeiriad. Gallech naill ai ddylunio ffurflen yn cynnwys y datganiadau a'r gofynion cyfreithiol angenrheidiol ar gyfer ardystiad, neu nodi manylion y gofynion mewn llythyr at yr ymgeisydd. Mae Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol wedi datblygu templed y gallech ei ddefnyddio. 

Gallech bennu terfyn amser i'r ymgeisydd ymateb. Bydd hyn yn eich helpu os byddwch yn penderfynu gwrthod cais am na chafwyd ymateb. Eich dewis chi fydd faint o amser a roddir i ymgeiswyr ymateb. Fodd bynnag, dylech ganiatáu digon o amser i'r ymgeisydd gael ardystiad a'i anfon.

Gellir cyflwyno ardystiad i'ch swyddfa â llaw, drwy'r post neu drwy ddull electronig, megis e-bost. Os caiff yr ardystiad ei anfon yn electronig, rhaid i lofnod ardystiwr gael ei atodi i e-bost fel llun neu ddelwedd wedi'i sganio o lofnod inc wedi'i ysgrifennu â llaw.

Gallwch hefyd ofyn am ardystiad cyfeiriad ar gyfer categorïau penodol o etholwr lle byddwch o'r farn bod angen tystiolaeth ychwanegol. Mae angen cynnwys gwybodaeth benodol yn yr ardystiadau cyfeiriad ar gyfer y categorïau hyn o etholwr: 

  • y rheini a gafodd eu trin fel preswylydd mewn cyfeiriad penodol fel masnachlongwr 12
  • y rheini a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog neu etholwr tramor
  • y rheini a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol drwy ddatganiad o gysylltiad lleol, neu'r rheini a fyddai wedi bod â hawl i gofrestru drwy ddatganiad o gysylltiad lleol, ar y diwrnod olaf roeddent yn byw yn y DU

I gael rhagor o wybodaeth am ofynion ardystiadau cyfeiriad ar gyfer y categorïau penodol hyn o etholwyr, gweler ein canllawiau ar y canlynol:

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023