Defnyddio tystiolaeth i helpu i benderfynu ar amodau cymhwystra cais etholwr tramor
Cewch ddefnyddio tystiolaeth ddogfennol i benderfynu a oes hawl gan ymgeisydd i gofrestru o dan yr amod cofrestriad blaenorol neu'r amod preswylfa flaenorol. 1
Mae angen tystiolaeth wahanol ar gyfer ymgeiswyr a adawodd y DU cyn eu pen-blwydd yn 18 oed.
Mae'n bosibl hefyd y bydd angen tystiolaeth ddogfennol arnoch o unrhyw newidiadau i enw o pan oedd ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol neu'n arfer byw yn y cyfeiriad.
Gall ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol pan fydd yn gwneud cais neu mewn ymateb i gais gennych chi pan fyddwch yn prosesu ei gais.
Mae’n rhaid i chi fod yn fodlon bod ymgeisydd yn bodloni’r meini prawf o fod wedi’i gofrestru’n flaenorol neu wedi preswylio’n flaenorol yn y cyfeiriad a enwir cyn i chi ystyried unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r cais. Er enghraifft, os oes gennych reswm i gredu y dylai ymgeisydd sy’n gwneud cais gan ddefnyddio’r amod preswylio fod yn gwneud cais o dan yr amod cofrestriad blaenorol neu'r amod preswylio mewn ardal awdurdod lleol gwahanol, dylech wrthod ei gais a dweud wrtho am ailymgeisio yn yr ardal sy’n bodloni’r meini prawf deddfwriaethol.
Gellir lanlwytho tystiolaeth ddogfennol ar y cyd â chais ar-lein neu ei chyflwyno i'ch swyddfa â llaw, drwy'r post neu fel atodiad i e-bost. Dylai unrhyw gopïau o ddogfennau a ddarperir gan ymgeiswyr gael eu storio'n ddiogel yn yr un ffordd â ffurflenni cais. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y canllawiau ar gadw gwybodaeth a gyflwynir gyda cheisiadau.
Dylech fod yn fodlon bod y copïau a roddir i chi yn ymddangos yn ddilys. Os byddwch yn amau nad yw dogfen yn ddilys, gallwch ofyn i'r ymgeisydd gyflwyno dogfennau gwreiddiol neu dystiolaeth ddogfennol amgen yn y lle cyntaf. Os na fydd dogfennau gwreiddiol neu dystiolaeth ddogfennol amgen ar gael, dylech gyfeirio'r ymgeisydd at y broses ardystio cyfeiriad neu wrthod y cais.
Os nad yw'n ymddangos bod tystiolaeth ddogfennol yn ddilys, dylech roi gwybod i'r ymgeisydd am y cosbau a roddir am gyflwyno gwybodaeth anwir a rhoi gwybod i'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu os byddwch yn amau bod gwybodaeth anwir wedi cael ei chyflwyno o bosibl.