Defnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth ddogfennol i wirio amod cymwys ymgeiswyr a adawodd y DU cyn eu pen-blwydd yn 18 oed

Gall ymgeisydd ddewis darparu tystiolaeth ddogfennol o'i breswylfa flaenorol ei hun mewn cyfeiriad cymwys. Mae ein canllaw Tystiolaeth dderbyniol ar gyfer ceisiadau a wneir o dan yr amod a gofrestrwyd yn flaenorol neu’n breswylydd yn flaenorol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y math o dystiolaeth ddogfennol y gellir ei darparu.

Os na allwch gael eich bodloni gan dystiolaeth ddogfennol, gallwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu ardystiad. Mae ein canllaw ar Sut i ddefnyddio'r broses ardystio cyfeiriad ar gyfer cais etholwr tramor yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Yn ogystal â hyn, gall ymgeiswyr a oedd yn iau na 18 oed pan adawon nhw’r DU wneud cais o dan yr amod preswylio’n flaenorol drwy ddangos eu cysylltiad â’u rhiant neu warcheidwad y mae’n rhaid eu bod wedi preswylio’#n flaenorol yn eu cyfeiriad cymwys ar y diwrnod olaf.

Gall yr ymgeisydd gynnwys yn ei gais:

  • enw llawn rhiant neu warcheidwad yr ymgeisydd a oedd yn byw yn y cyfeiriad perthnasol ar y diwrnod olaf

      os darperir enw llawn rhiant, mae’n rhaid i’r ymgeisydd hefyd ddarparu copi (neu fersiwn wreiddiol, os yw’n briodol) o’i dystysgrif geni ei hun sy’n cynnwys ei ddyddiad geni ac enw ei riant.

     os darperir enw llawn gwarcheidwad, rhaid i chi ofyn iddynt ddarparu copi (neu fersiwn wreiddiol, os yw’n briodol) o dystiolaeth sy’n cadarnhau mai’r person a enwyd oedd ei warcheidwad pan adawodd y DU

  • mewn perthynas â phob rhiant neu warcheidwad, nodyn bod eu rhiant neu warcheidwad wedi’u cofrestru yng nghyfeiriad cymwys yr ymgeisydd

Pan fydd ymgeisydd yn darparu tystysgrif geni neu dystiolaeth ddogfennol arall sy’n dangos ei gysylltiad â rhiant neu warcheidwad a bod ei enw ar y dystiolaeth honno’n wahanol i’w enw presennol (neu ei enw ar yr adeg y’i cofrestrwyd ddiwethaf, a ddarperir o dan ofyniad datganiad ar wahân), dylech ofyn bod yr ymgeisydd yn rhoi esboniad o'r gwahaniaeth yn yr enw (os yw'n hysbys).

Lle bydd ymgeisydd yn darparu tystiolaeth ddogfennol a bod enw unrhyw riant neu warcheidwad enwebedig yn wahanol i enw’r rhiant neu warcheidwad ar yr adeg yr oedd yr ymgeisydd yn preswylio ddiwethaf, dylech ofyn am esboniad ynghylch y gwahaniaeth yn yr enw (os yw’n hysbys).

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd i gynnal gwiriad cofrestr etholiadol yn y cyfeiriad cymwys i wirio a oedd y rhiant neu warcheidwad wedi'i gofrestru yno.

Os gallwch ddod o hyd i gofnod y rhiant/gwarcheidwad ar y gofrestr etholiadol yn y cyfeiriad cymwys a’ch bod yn fodlon bod y dystiolaeth ddogfennol yn dangos cysylltiad yr ymgeisydd â’r rhiant/gwarcheidwad a enwir, gallwch brosesu’r cais.

Os na allwch ddod o hyd i gofnod rhiant neu warcheidwad ymgeisydd ar gofrestr etholiadol yn y cyfeiriad perthnasol, nid yw o reidrwydd yn golygu nad oedd yr ymgeisydd yn breswylydd.

Gallwch ofyn am dystiolaeth ddogfennol bellach o breswylfa flaenorol yr ymgeisydd yn y cyfeiriad cymwys. Neu os na allwch fod yn fodlon y gellir dangos preswylfa flaenorol yr ymgeisydd yn y cyfeiriad cymwys trwy wiriad cofrestr ar gyfer y rhiant/gwarcheidwad neu drwy dystiolaeth ddogfennol, gallwch ofyn i’r ymgeisydd ddarparu ardystiad.Gall ymgeiswyr a adawodd y DU cyn eu pen-blwydd yn 18 oed gynnwys gwybodaeth neu dystiolaeth ddogfennol gyda'u cais yn dangos eu bod yn arfer byw yn eu cyfeiriad cymwys. 

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mai 2024