Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Tystiolaeth dderbyniol ar gyfer ceisiadau a wneir o dan yr amod cofrestriad blaenorol neu'r amod preswylfa flaenorol.
Os byddwch yn penderfynu bod angen tystiolaeth ychwanegol er mwyn i chi fod yn fodlon bod ymgeisydd tramor wedi'i gofrestru'n flaenorol neu'n arfer byw yn y cyfeiriad perthnasol a nodwyd yn ei gais, gallwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu dogfen sy'n bodloni'r gofynion tystiolaethol. 1 Y gofynion tystiolaethol yw bod yn rhaid i'r ddogfen ddangos enw llawn presennol neu flaenorol yr ymgeisydd 2 a'r cyfeiriad perthnasol. 3
Cewch ddewis derbyn unrhyw ddogfen sy'n bodloni'r gofynion tystiolaethol os byddwch yn fodlon ei bod yn dangos bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol neu'n arfer byw yn y cyfeiriad. Os mai copi (neu'r fersiwn wreiddiol, os gofynnir am hynny) o unrhyw un o'r dogfennau a restrir isod yw'r ddogfen a ddarperir, ac bodloni'r gofynion tystiolaethol, mae'n rhaid i chi ei derbyn. 4
Y dogfennau hyn yw:
- trwydded yrru a gyhoeddwyd yn y DU (gan gynnwys trwydded sydd wedi dod i ben)
- offeryn penodiad llys, megis grant profiant neu lythyrau gweinyddu
- llythyr oddi wrth Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cadarnhau bod atwrneiaeth arhosol wedi'i chofrestru
- llythyr oddi wrth Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi
- llythyr neu ddatganiad galw am dalu'r dreth gyngor
- llyfr rhent a gyhoeddwyd gan awdurdod lleol
- datganiad o fudd-daliadau neu hawl i fudd-daliadau, megis datganiad o fudd-dal plant, o fewn ystyr adran 141 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, neu lythyr yn cadarnhau bod hawl gan yr ymgeisydd i gael budd-dal tai, o fewn ystyr adran 130 o'r Ddeddf honno
- llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cadarnhau bod hawl gan yr ymgeisydd i bensiwn y wladwriaeth
- llythyr oddi wrth ysgol, coleg, prifysgol neu sefydliad addysgol arall sy'n cadarnhau presenoldeb yr ymgeisydd yn y sefydliad hwnnw, neu ei fod wedi cael cynnig lle yn y sefydliad hwnnw
- llythyr oddi wrth y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr
- copi swyddogol o gofnod y Gofrestrfa Tir ar gyfer y cyfeiriad perthnasol neu brawf arall o deitlau'r cyfeiriad perthnasol
- llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau bod y cyfeiriad perthnasol wedi'i brynu neu wedi'i gofrestru â'r Gofrestrfa Tir
- Ffurflen P45, Ffurflen P60, geirda neu slip cyflog a gyflwynwyd i'r ymgeisydd gan ei gyflogwr neu gyn-gyflogwr
- paslyfr neu gyfriflen gan fanc neu gymdeithas adeiladu neu lythyr gan fanc neu gymdeithas adeiladu yn cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi agor cyfrif gyda'r banc neu'r gymdeithas adeiladu dan sylw
- cyfriflen cerdyn credyd
- bil cyfleustodau neu ffôn symudol
- llythyr oddi wrth ddarparwr yswiriant
Mae rhai categorïau o ymgeiswyr a all ddarparu dogfennau amgen sy'n bodloni'r gofynion tystiolaethol, sef:
- ymgeiswyr a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol neu'n arfer byw yn y cyfeiriad (neu a allai fod) drwy ddatganiad o gysylltiad lleol
- ymgeiswyr a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog neu fasnachlongwr
- ymgeiswyr a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol fel priod neu bartner sifil i bleidleisiwr yn y lluoedd arfog
- ymgeiswyr a oedd wedi'u cofrestru'n flaenorol fel etholwr tramor a, chyn gadael y DU, a oedd wedi'u cofrestru drwy ddatganiad o gysylltiad lleol, fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog neu fel masnachlongwr
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr a adawodd y DU cyn eu pen-blwydd yn 18 oed ddarparu tystiolaeth wahanol er mwyn dangos eu bod yn gymwys i gofrestru fel etholwr tramor. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau Defnyddio gwybodaeth neu dystiolaeth ddogfennol i wirio amod cymwys ymgeiswyr a adawodd y DU cyn eu pen-blwydd yn 18 oed.
- 1. Rheoliad 26D(3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 26D(3)(a), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 26D(3)(b), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 26D(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 4