Gofyn am dystiolaeth ddogfennol ychwanegol gan ymgeisydd a oedd wedi'i gofrestru'n flaenorol fel priod neu bartner sifil i bleidleisiwr yn y lluoedd arfog

Mae'r adran hon yn gymwys pan fydd ymgeisydd wedi'i gofrestru'n flaenorol drwy ddatganiad gwasanaeth fel priod neu bartner sifil i bleidleisiwr yn y lluoedd arfog.

Os, ar ôl gofyn i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol, na fyddwch yn fodlon o hyd fod ymgeisydd wedi'i gofnodi'n flaenorol ar gofrestr etholiadol mewn perthynas â'r cyfeiriad perthnasol, oherwydd naill ai:

  • nid yw'r ymgeisydd wedi gallu darparu dogfen o'r rhestr o dystiolaeth dderbyniol 1  y mae'n rhaid ei derbyn 
  • rydych wedi cael dogfennau amgen sy'n bodloni'r gofyniad tystiolaethol ond rydych yn anfodlon o hyd

gallwch ofyn i'r ymgeisydd ddarparu naill ai: 

  • tystiolaeth ddogfennol ychwanegol  
  • ardystiad o statws cofrestru a wnaed gan ardystiwr cymwys

Tystiolaeth ddogfennol ychwanegol

Rhaid i'r dystiolaeth hon fod naill ai'n gopi (neu'n fersiwn wreiddiol os yw'n briodol) o unrhyw ddogfen sy'n:2

  • dangos enw llawn yr ymgeisydd3
  • gallu cael ei defnyddio i gadarnhau bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran statws cofrestru4

Yn ogystal â'r dystiolaeth ddogfennol neu'r ardystiad o statws cofrestru, neu yn lle hynny, gallwch hefyd5  ofyn i'r ymgeisydd ddarparu copi (neu fersiwn wreiddiol os yw'n briodol) o ddogfen sy'n cadarnhau:

  • enw llawn presennol neu flaenorol y pleidleisiwr yn y lluoedd arfog a'i gymhwysedd fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog6
  • bod y pleidleisiwr yn y lluoedd arfog yn briod, yn bartner sifil, yn rhiant neu'n warcheidwad i'r ymgeisydd, neu ei fod yn arfer bod (fel y digwydd)7  

Ardystio statws cofrestru 

Fel arall, gall yr ymgeisydd ddarparu ardystiad o statws cofrestru gan etholwr cymwys8 y mae'n rhaid iddo gynnwys: 

  • pa un o'r gofynion o ran statws cofrestru8 a fodlonwyd gan yr ymgeisydd
  • rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys8

Y gofyniad o ran statws cofrestru yw bod gan yr ymgeisydd gymhwysedd gwasanaeth perthnasol oherwydd bod ei briod, partner sifil, rhiant neu warcheidwad yn aelod o Luoedd EF. 

Ardystio cysylltiad â chyfeiriad perthnasol

Os byddwch yn anfodlon o hyd ar ôl gofyn am dystiolaeth ychwanegol neu ardystiad o statws cofrestru gan ardystiwr cymwys, efallai y byddwch am ofyn i'r ymgeisydd ardystio cysylltiad â chyfeiriad perthnasol, y mae'n rhaid iddo gynnwys:

  • cadarnhad bod yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad o ran cysylltiad â chyfeiriad perthnasol
  • rhwng pa ddyddiadau roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r gofyniad, hyd eithaf gwybodaeth yr ardystiwr cymwys.

Y gofyniad o ran cysylltiad â chyfeiriad perthnasol yw y byddai'r ymgeisydd wedi bod yn byw yn y DU pe na bai ei briod, partner sifil, rhiant neu warcheidwad wedi bod yn gwasanaethu fel aelod o'r lluoedd arfog.8
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023