Ceisiadau i ailgyfeirio pleidleisiau post gan bleidleiswyr post presennol

Ni chaiff etholwyr sydd â phleidlais bost ar gyfer etholiad penodol addasu manylion dosbarthu eu pleidlais bost, ond gallant gyflwyno cais newydd gyda chyfeiriad newydd i'r bleidlais bost gael ei hanfon iddo.

Gall pleidleiswyr post presennol sydd â threfniant pleidleisio drwy'r post tymor hwy ofyn am i'w pleidlais bost gael ei hailgyfeirio ar unrhyw adeg hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad er mwyn bod yn weithredol yn yr etholiad hwnnw.1  Yr eithriad i hyn yw pan fydd y papur pleidleisio drwy'r post wedi'i gwblhau eisoes wedi'i ddychwelyd gan yr etholwr ar gyfer yr etholiad.

Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig a gellir ei bostio, ei gyflwyno â llaw neu ei anfon atoch drwy e-bost a rhaid iddo gynnwys y canlynol:2

  • enw llawn yr etholwr a'i gyfeiriad cofrestredig
  • y cyfeiriad ailgyfeirio
  • yr amgylchiadau sy'n golygu bod angen, neu y bydd angen, ailgyfeirio'r bleidlais
  • dyddiad y cais

Os caniateir cais i ailgyfeirio pleidlais, rhaid i chi gadarnhau hyn i'r etholwr yn ysgrifenedig ei gyfeiriad cofrestredig.3
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023