Ni fydd ymgeisydd yn gallu cyflwyno cais anghyflawn am bleidlais bost ar-lein.
Yr unig eithriadau yw:
os na all ymgeisydd ddarparu ei rif Yswiriant Gwladol a'i fod yn rhoi datganiad yn nodi'r rhesymau pam fel rhan o'r cais
os na all ymgeisydd ddarparu ei lofnod a'i fod yn nodi y bydd angen hepgoriad arno
Os na all ymgeisydd ddarparu ei rif Yswiriant Gwladol, dylech geisio cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd drwy ddefnyddio'r broses eithriadau.1
Ffurflenni cais papur
Efallai y byddwch yn cael ceisiadau papur am bleidlais bost nad ydynt yn cynnwys yr holl wybodaeth ofynnol.
Ni allwch benderfynu ar gais am bleidlais bost os oes unrhyw elfen o'r wybodaeth ofynnol ar goll neu'n anghyflawn.
Ceisiadau papur ar gyfer etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol
Os bydd y cais ar gyfer etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol a'i fod yn anghyflawn, dylech wneud ymholiadau er mwyn cael y wybodaeth sydd ar goll lle y bo'n bosibl. Os na chyflwynir y wybodaeth sydd ar goll, rhaid gwrthod y cais.
Os bydd yn ymddangos bod yr etholwr wedi gwneud camgymeriad wrth gwblhau ei gais am bleidlais bost (er enghraifft, os bydd wedi rhoi ei ddyddiad geni yn y drefn anghywir), dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn iddo ailgyflwyno ffurflen gais.
Ceisiadau papur ar gyfer etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Os bydd y cais ar gyfer etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac nad yw'r ymgeisydd wedi gallu darparu ei rif Yswiriant Gwladol, rhaid iddo ddarparu datganiad o'r rhesymau pam fel rhan o'r cais.
Os na fydd ymgeisydd yn gallu darparu ei rif Yswiriant Gwladol, a'i fod yn rhoi datganiad yn nodi'r rhesymau pam, ni chaiff y cais ei wrthod am ei fod yn anghyflawn a dylech gadarnhau pwy yw'r ymgeisydd drwy ddefnyddio'r broses eithriadau.1
Os na roddir unrhyw esboniad pam y mae'r wybodaeth ofynnol ar goll ar ffurflen gais bapur, dylech wneud ymholiadau er mwyn cael y wybodaeth sydd ar goll lle y bo'n bosibl. Os na chyflwynir y wybodaeth sydd ar goll, rhaid i chi wrthod y cais. Dylech gysylltu â'r ymgeisydd er mwyn esbonio pam mae'r cais wedi cael ei wrthod a sut i gyflwyno cais o'r newydd. Os gwneir y cais yn ystod y cyfnod cyn etholiad, dylech esbonio hefyd fod yn rhaid i gais newydd ddod i law erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, er mwyn iddo allu cael ei brosesu mewn pryd ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Os na fydd ymgeisydd yn gallu darparu ei lofnod, dylai nodi y bydd angen hepgoriad arno a dylech anfon cais am hepgoriad llofnod i'w gwblhau ato.