Y cymwysterau ar gyfer gweithredu fel dirprwy

Unrhyw berson sydd wedi'i gofrestru, neu a fydd yn cael ei gofrestru, ac sydd â hawl i bleidleisio yn y math o etholiad y caiff ei benodi ar ei gyfer.1  

Os bydd y dirprwy yn breswylydd yn ardal eich awdurdod lleol, byddwch yn gallu gwirio eich cofrestr eich hun. Fodd bynnag, os bydd y dirprwy wedi'i gofrestru mewn ardal awdurdod lleol arall, dylech gadarnhau'r manylion hyn gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer yr ardal honno.

Gallwch ofyn i Swyddog Cofrestru Etholiadol arall ddarparu gwybodaeth cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol2  a dylech roi gwybod i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol os oes angen ymateb arnoch ar frys gan fod etholiad ar fin digwydd. Dylech dynnu ei sylw os oes angen yr ymateb ar frys, er enghraifft, drwy roi pennawd clir ar eich e-bost, megis Swyddog Cofrestru Etholiadol i wirio statws cofrestriad cais am ddirprwy. Mae angen i chi sicrhau bod system ar waith ar gyfer monitro achosion o beidio ag ymateb a chymryd camau dilynol yn eu cylch. Yn yr un modd, dylech sicrhau eich bod yn darparu'r wybodaeth hon cyn gynted â phosibl i unrhyw Swyddog Cofrestru Etholiadol arall. 

Os nad yw'r unigolyn a gaiff ei enwebu wedi'i gofrestru, ac na fydd yn cael ei gofrestru, dylech gysylltu â'r ymgeisydd i esbonio'r meini prawf cymhwyso. Dylech ofyn iddo enwebu rhywun arall sydd wedi'i gofrestru, neu a fydd yn cael ei gofrestru, fel ei ddirprwy, neu awgrymu ei fod yn gofyn i'w ddirprwy gofrestru (ac esbonio sut i wneud hynny) a rhoi gwybod i chi os bydd y cais i gofrestru yn llwyddiannus. Os gwneir y cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru, dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd yn gyflym, megis dros y ffôn neu drwy e-bost os yw ei fanylion cyswllt gennych. Mae'n rhaid i ddirprwyon fod yn 18 oed neu'n hŷn i bleidleisio ar ran etholwr mewn perthynas ag etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Dim ond mewn perthynas ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol y gall pobl ifanc 16 ac 17 oed weithredu fel dirprwy.3

Terfynau ar weithredu fel dirprwy yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau llywodraeth leol 

Ni all unigolyn bleidleisio fel dirprwy mewn unrhyw ardal etholiadol ar ran mwy na dau etholwr, ac eithrio os yw'n briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn fam-gu neu'n dad-cu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn neu'n ŵyr neu'n wyres i'r etholwyr4 . Nid oes terfyn ar nifer y perthnasau agos y gall dirprwy bleidleisio ar eu rhan.

Nid yw'n drosedd cael eich penodi'n ddirprwy gan fwy na dau unigolyn, ond mae pleidleisio ar ran mwy na dau unigolyn nad ydynt yn berthnasau agos yn drosedd

Terfynau ar weithredu fel dirprwy yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 

Ni waeth beth fo'i berthynas â'r etholwr, ni chaiff person bleidleisio fel dirprwy mewn unrhyw ardal etholiadol ar ran mwy na phedwar etholwr, na chaiff mwy na dau ohonynt fod yn etholwyr domestig. 

Mae'n drosedd:6

  • i berson benodi dirprwy os yw'n gwybod ei fod eisoes yn gweithredu fel dirprwy ar ran dau etholwr domestig neu fwy 
  • pleidleisio fel dirprwy ar ran mwy na dau etholwr domestig
  • i berson sydd wedi'i gofrestru fel etholwr tramor neu etholwr yn y lluoedd arfog benodi dirprwy os yw'n gwybod ei fod eisoes yn gweithredu fel dirprwy ar ran pedwar etholwr neu fwy (na chaiff mwy na dau ohonynt fod yn etholwyr domestig)
  • pleidleisio fel dirprwy ar ran mwy na phedwar etholwr (na chaiff mwy na dau ohonynt fod yn etholwyr domestig). 

Etholwyr domestig yw'r rhai hynny nad ydynt yn bleidleiswyr yn y lluoedd arfog nac yn etholwyr tramor.5  

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023