| Argraffu'r canllawiau llawn

Ceisiadau am hepgoriad llofnod ar gyfer pleidleiswyr post

Os na all ymgeisydd ddarparu llofnod neu lofnod cyson oherwydd unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu, gellir hepgor y gofyniad am lofnod ar y cais am bleidlais bost a'r datganiad pleidleisio drwy'r post.

Gall etholwr ofyn am ffurflen gais i hepgor llofnod gennych unrhyw bryd, gan gynnwys ar ôl i'r trefniant pleidleisio drwy'r post gael ei roi ar waith. Gellir gwneud y cais hefyd mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys fel rhan o gais ar-lein am bleidlais bost.

Rhaid derbyn unrhyw gais am hepgoriad erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad er mwyn iddo fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad hwnnw.

Rhaid i'r ymgeisydd roi'r rheswm dros y cais am hepgoriad gyda'r cais, ynghyd ag enw a chyfeiriad unrhyw un sydd wedi'i helpu i gwblhau'r cais.
 
Dylech fod yn fodlon bod y cais yn un dilys ac nad yw'n cael ei ddefnyddio fel ymgais i osgoi mesurau diogelwch pleidleisiau post. Mater i chi yw penderfynu ar y prawf neu'r dystiolaeth sydd ei (h)angen er mwyn bod yn fodlon na all yr ymgeisydd ddarparu llofnod, neu lofnod cyson, oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu.
 
Nid oes gennych unrhyw bwerau i ymchwilio na dyfarnu ar natur na difrifoldeb anabledd etholwr.
 
Dylech ddefnyddio dull cyson wrth ystyried ceisiadau am hepgoriadau llofnod sy'n cydbwyso hygyrchedd ac uniondeb y broses pleidleisio drwy'r post.

Os byddwch yn gwneud ymholiadau pellach, dylech gadw mewn cof na all yr unigolyn sy'n gwneud cais am hepgoriad ymateb ei hun o bosibl. Fodd bynnag, gallwch ofyn i unrhyw unigolyn a wnaeth neu sy'n helpu'r ymgeisydd am eglurhad neu ragor o wybodaeth. Er enghraifft, gallech ofyn i'r unigolyn hwn gwblhau datganiad wedi'i lofnodi i gadarnhau, hyd eithaf ei wybodaeth a'i gred, na all yr etholwr dan sylw ddarparu llofnod neu lofnod cyson o ganlyniad i unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Dylech ei gwneud yn glir i unrhyw un rydych yn gofyn am wybodaeth neu ddatganiad ganddo fod darparu gwybodaeth anwir mewn perthynas â chais am bleidlais bost yn drosedd, a nodi'n glir beth yw'r gosb berthnasol fwyaf y gellir ei chael.

Os na fyddwch yn fodlon bod y cais am hepgoriad yn ddilys ar ôl gwneud ymholiadau priodol, dylech ei wrthod. Os byddwch yn gwrthod y cais am hepgoriad, rhaid i chi wrthod y cais am bleidlais bost a rhoi gwybod i'r ymgeisydd yn ysgrifenedig am y rhesymau dros eich penderfyniad.1
 
Dylech fod yn wyliadwrus o unrhyw dueddiadau a allai ddod i'r amlwg wrth dderbyn ceisiadau am hepgoriad, a dylai'r canlynol godi amheuon:

  •  nifer mawr o geisiadau a gynorthwywyd neu a lofnodwyd gan un unigolyn heb unrhyw esboniad credadwy (er enghraifft, mae'n debygol y byddai staff cartrefi nyrsio neu gartrefi gofal yn cynorthwyo nifer o etholwyr i gwblhau eu ceisiadau am hepgoriad, ond mae'n llai tebygol y byddai angen i aelodau cyffredin o'r cyhoedd, nad oes cysylltiad ganddynt â sefydliadau o'r fath, gynorthwyo nifer mawr o ymgeiswyr)
  • nifer mawr o geisiadau o un stryd neu ardal heb unrhyw esboniad credadwy (er enghraifft, mae'n debygol y byddai mwy o geisiadau am hepgoriad na'r arfer yn dod i law gan breswylwyr mewn cartref nyrsio neu gartref gofal, ond mae'n llai tebygol y byddai angen hepgoriad ar nifer mawr o breswylwyr mewn tŷ amlfeddiannaeth cyffredin)

Os byddwch yn fodlon ar y cais am hepgoriad a'r cais cysylltiedig am bleidlais bost, dylech gadarnhau yn ysgrifenedig i'r etholwr eich bod wedi derbyn y cais a'r hepgoriad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Awst 2026