Newid neu ganslo pleidlais drwy ddirprwy

Newid dirprwy penodedig

Gall pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy sydd â phleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol wneud cais i newid eu dirprwy penodedig ar unrhyw adeg hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad er mwyn bod yn weithredol yn yr etholiad hwnnw.1  

Newid dirprwy penodedig ar gyfer etholiadau Senedd Cymru neu etholiadau llywodraeth leol

Mae'n rhaid i gais i newid dirprwy penodedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol neu etholiadau Senedd Cymru nodi enw llawn a chyfeiriad yr unigolyn y mae'r etholwr yn dymuno ei benodi fel ei ddirprwy, gan gynnwys unrhyw berthynas deuluol. Rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad bod yr unigolyn a gaiff ei benodi'n ddirprwy yn gallu ac yn fodlon pleidleisio fel dirprwy'r ymgeisydd.

Newid dirprwy penodedig ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Mae'n rhaid i gais i newid dirprwy penodedig ar gyfer etholiadau Senedd y DU nodi enw llawn a chyfeiriad yr unigolyn y mae'r etholwr yn dymuno ei benodi fel ei ddirprwy newydd. Rhaid iddo hefyd gynnwys datganiad bod yr unigolyn a gaiff ei benodi'n ddirprwy yn gallu ac yn fodlon pleidleisio fel dirprwy'r ymgeisydd.

Os bydd y newid i ddirprwy yn ymwneud â threfniant i bleidleisio drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol, bydd yr unigolyn sydd newydd ei benodi'n ddirprwy yn parhau i fod yn ddirprwy nes daw'r trefniant i bleidleisio drwy ddirprwy i ben neu nes bod yr etholwr yn penderfynu gwneud newid arall.2

Dylech roi gwybod i'r etholwr mewn llythyr cadarnhau y bydd yr unigolyn a benodwyd fel dirprwy iddo yn fwyaf diweddar yn parhau i fod yn ddirprwy iddo, fel y disgrifir uchod.

Fel arall, gall gyflwyno cais newydd i bleidleisio drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol, erbyn 5pm chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad, a fyddai'n disodli'r un cynharach.

Nid oes darpariaethau i'r etholwyr hynny sydd â phleidlais drwy ddirprwy mewn etholiad penodol ganslo eu cais i benodi dirprwy. Fodd bynnag, gallant gyflwyno cais newydd i bleidleisio drwy ddirprwy, erbyn 5pm chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad, a fyddai'n disodli'r un cynharach.

Newid dirprwy mewn argyfwng am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr yn etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu3  

Ar ôl y dyddiad cau, sef 5pm chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad, gall pleidleisiwr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy wneud cais i newid y dirprwy penodedig am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr ar gyfer etholiadau penodol. Mae'n rhaid i'r cais gynnwys datganiad sy'n nodi, hyd eithaf gwybodaeth a chred y pleidleisiwr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy, fod ei ddirprwy penodedig yn bodloni'r amodau y darperir ar eu cyfer. Mae'n rhaid i gais a wneir o dan y darpariaethau hyn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Newid o bleidlais drwy ddirprwy i bleidlais bost

Gall pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy sydd â phleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol newid eu hopiswn pleidleisio o bleidlais drwy ddirprwy i bleidlais bost ar unrhyw adeg a hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad er mwyn bod yn weithredol yn yr etholiad hwnnw.4 Mae'n rhaid gwneud ceisiadau i newid y dull pleidleisio o bleidlais drwy ddirprwy i bleidlais bost drwy gyflwyno cais i bleidleisio drwy'r post. Os penderfynir cymeradwyo'r cais am bleidlais bost, mae'n rhaid i chi ddiwygio'r cofnod yn unol â hynny.

Canslo pleidlais drwy ddirprwy

Gall pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy sydd â phleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol ganslo eu pleidlais drwy ddirprwy ar unrhyw adeg hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn etholiad er mwyn bod yn weithredol yn yr etholiad hwnnw.5  

Nid oes darpariaethau i etholwyr sydd â phleidlais drwy ddirprwy mewn etholiad penodol ganslo eu pleidlais drwy ddirprwy. Fodd bynnag, gallant newid eu dull pleidleisio drwy gyflwyno cais am bleidlais bost erbyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, a fyddai'n disodli'r cais cynharach am bleidlais drwy ddirprwy.

Gall etholwr sydd wedi penodi dirprwy bleidleisio yn bersonol o hyd, ar yr amod ei fod yn gwneud hynny cyn ei ddirprwy penodedig ac nad yw'r dirprwy penodedig wedi dewis pleidleisio drwy'r post.

Newid neu ganslo pleidlais drwy ddirprwy lle mae pleidlais ddirprwy drwy'r post yn bodoli

Os bydd dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post yn dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post (oni bai ei fod wedi'i ddifetha neu'n honni ei fod ar goll neu nad yw wedi'i dderbyn) cyn i chi benderfynu ar gais gan yr etholwr i newid neu ganslo ei bleidlais drwy ddirprwy, neu gais gan y dirprwy i newid ei ddull pleidleisio o bleidlais bost i bleidleisio yn bersonol, rhaid i chi ddiystyru'r cais ar gyfer yr etholiad y cyflwynwyd y papur pleidleisio drwy'r post ar ei gyfer.6 Gweler ein canllawiau ar ganslo pleidleisiau post, sydd hefyd yn gymwys yn achos dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post.

Gofyniad i roi gwybod i'r Swyddog Canlyniadau mewn etholiad am newidiadau i drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy

Mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Swyddog Canlyniadau pan fyddwch wedi caniatáu:7  

  • cais i ganslo pleidlais drwy ddirprwy neu bleidlais ddirprwy drwy’r post
  • cais i newid o bleidlais drwy ddirprwy i bleidlais bost
  • penodiad dirprwy
  • cais i bapur pleidleisio drwy ddirprwy gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023