Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy
Mae'r ffordd y gall etholwr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn dibynnu ar y math o etholiad y mae'r cais ar ei gyfer.
Ar gyfer pob math o etholiad, gellir gwneud ceisiadau:
- yn ysgrifenedig (e.e., ar ffurflen gais bapur)
- yn bersonol yn eich swyddfa (os byddwch yn penderfynu cynnig y gwasanaeth)
Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, yn ogystal â'r ffyrdd a nodir uchod, gall etholwyr wneud cais ar-lein drwy GOV.UK hefyd ond dim ond pan fydd y cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol neu ar gyfer unrhyw gyfnod pan fydd yr ymgeisydd yn etholwr tramor neu'n bleidleisiwr yn y lluoedd arfog.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar gynnwys gofynnol ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiadau gwahanol.
Ffurflenni cais papur
Nid yw ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy wedi'u rhagnodi, ond rhaid i gais gynnwys yr holl wybodaeth ofynnol a rhaid cyflwyno'r llofnod a'r dyddiad geni mewn fformat penodol. Bydd y wybodaeth ofynnol yn wahanol ar gyfer gwahanol fathau o etholiadau.
Pan fydd rhywun yn gofyn am ffurflen gais bapur, cyn darparu un dylech gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio neu ei fod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech esbonio bod yn rhaid i'r ymgeisydd fod wedi cofrestru i bleidleisio a dylech gynnig y cyfle iddo wneud cais i gofrestru ar-lein neu anfon ffurflen gofrestru i bleidleiswyr.
I sicrhau eich bod yn anfon y ffurflen gais briodol/ffurflenni cais priodol am bleidlais drwy ddirprwy, dylech gadarnhau yn gyntaf yr etholiadau y mae'r etholwr yn gymwys i bleidleisio ynddynt.
Rydym yn cynhyrchu ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy y gellir eu hargraffu y gallwch eu defnyddio.
Caiff y ffurflenni cais am bleidlais drwy ddirprwy hyn y gellir eu hargraffu eu cyhoeddi ar ein gwefan ac ar GOV.UK.
Gall ffurflen gais bapur am bleidlais drwy ddirprwy fod mewn unrhyw fformat:1 mae llythyr, e-bost ag atodiad wedi'i sganio neu ffurflen gais bapur yn dderbyniol, cyhyd â bod y llofnod a'r dyddiad geni yn glir ac wedi'u darparu yn y fformat rhagnodedig.
Os byddwch yn cael cais ysgrifenedig nad yw wedi'i gyflwyno ar ffurflen gais, dylech gadarnhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Os yw'n anghyflawn, dylech ddilyn y broses a amlinellir yn ein canllawiau ar geisiadau anghyflawn.
Gwneud cais yn bersonol
Mae'n bosibl y bydd pobl yn ei chael hi'n anodd cwblhau cais am bleidlais drwy ddirprwy. Er budd a chyfleustra eich etholwyr ac i'ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dylech gynnig gwasanaethau gwneud cais yn bersonol fel bod unigolion yn cael y cyfle i wneud cais heb fod angen darparu gwybodaeth ar gyfer y cais yn ysgrifenedig.
Os na allwch ddarparu cymorth i gwblhau ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy yn bersonol i bawb, dylech ddarparu hyn yn ôl eich disgresiwn o dan rai amgylchiadau o hyd.
Wrth ymdrin â cheisiadau a wneir yn bersonol, cyn parhau dylech gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio neu ei fod wedi gwneud cais i gofrestru i bleidleisio. Os nad yw wedi gwneud hynny, dylech esbonio bod yn rhaid bod ymgeisydd wedi cofrestru i bleidleisio cyn y gall gael pleidlais drwy ddirprwy a dylech gynnig y cyfle iddo wneud cais i gofrestru.
I sicrhau bod y ffurflen gais briodol/ffurflenni cais priodol am bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei chwblhau/eu cwblhau, dylech gadarnhau ym mha etholiadau y mae'r etholwr yn gymwys i bleidleisio a chadarnhau bod gan yr ymgeisydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen i chi gwblhau'r cais/ceisiadau ar ei ran yn llawn.
Mae hyn yn cynnwys dyddiad geni a gallu'r unigolyn i ddarparu llofnod ysgrifenedig mewn inc ar ffurflen bapur. Ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu ei rif Yswiriant Gwladol hefyd neu reswm pam na ellir darparu hwn. Os byddwch yn mewnbynnu'r wybodaeth yn uniongyrchol i'r gwasanaeth ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, mae'n bosibl hefyd y bydd angen i chi helpu'r ymgeisydd i dynnu llun o'i lofnod inc er mwyn ei lanlwytho.
Os na fydd unigolyn yn gallu darparu llofnod ysgrifenedig, gall wneud cais am hepgoriad.
Nid oes modd cwblhau ceisiadau a wneir drwy ddefnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn rhannol ac yna eu gorffen yn ddiweddarach, felly os na all ymgeisydd ddarparu'r holl wybodaeth, bydd angen i chi sicrhau bod ei gais yn cael ei gyflwyno ar ffurf ffurflen bapur fel y gallwch ychwanegu unrhyw wybodaeth sydd ar goll yn ddiweddarach.
Unwaith y byddwch wedi casglu'r wybodaeth angenrheidiol, dylech ei darllen yn ôl i'r ymgeisydd, gan roi'r cyfle iddo adolygu'r wybodaeth a ddarparwyd a bodloni ei hun bod y wybodaeth yn wir ac yn gywir.
Os byddwch yn derbyn ceisiadau yn bersonol, mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnodion cywir o'r wybodaeth a roddir gan ymgeiswyr.2 Cyn casglu unrhyw wybodaeth, dylech sicrhau bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o'ch hysbysiad preifatrwydd a rhoi gwybodaeth gyffredinol iddo am y ffordd y caiff ei ddata eu defnyddio a'i hysbysu am y ffaith bod gwneud datganiad ffug yn drosedd.
Ceisiadau ar-lein
Gall etholwyr wneud cais ar-lein drwy ddefnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy wrth wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu pan fydd y cais ar gyfer etholiad penodol neu ar gyfer unrhyw gyfnod os yw'r ymgeisydd yn etholwr tramor neu'n bleidleisiwr yn y lluoedd arfog.
Dylid hysbysu etholwyr sy'n gwneud cais drwy ddefnyddio'r gwasanaeth i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy y bydd angen iddynt wneud cais ar wahân gan ddefnyddio ffurflen bapur, neu yn bersonol, os ydynt yn dymuno pleidleisio drwy ddirprwy am gyfnod hwy neu yn etholiadau Senedd Cymru a/neu mewn etholiadau llywodraeth leol.
- 1. Rheoliad 51(3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (RPR) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 4, Paragraff 3, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (RPA) 2000 ↩ Back to content at footnote 2