Rhesymau pam y gall fod angen ardystiad i gefnogi cais am bleidlais drwy ddirprwy
Mae angen rhoi rhesymau penodol mewn ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol ac, mewn rhai achosion, bydd angen cael ardystiad i gefnogi'r cais.1
Mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
ceisiadau oherwydd dallineb neu anabledd arall (ac eithrio'r rhai sydd wedi'u cofrestru'n ddall neu â nam difrifol ar y golwg gan yr awdurdod lleol neu sy'n cael y gyfradd uwch o elfen symudedd y Taliad Annibyniaeth Personol)
ceisiadau o ganlyniad i alwedigaeth, cyflogaeth, gwasanaeth neu bresenoldeb ar gwrs
Mae Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) yn darparu bod yn rhaid i ardystiad gan weithiwr meddygol proffesiynol i gefnogi cais i bleidleisio drwy ddirprwy oherwydd anabledd gael ei ddarparu am ddim.2
Nid oes rhaid i'r rhai sy'n gorfod teithio dros y môr neu yn yr awyr i gyrraedd eu gorsaf bleidleisio ardystio eu cais. Byddwch yn gallu cadarnhau a oes angen teithio dros y môr neu yn yr awyr i gyrraedd yr orsaf bleidleisio berthnasol o'r cyfeiriad cymhwyso o'ch gwybodaeth leol eich hun. Dim ond teithiau o'r cyfeiriad cymwys i'r orsaf bleidleisio a gaiff eu cwmpasu gan y ddarpariaeth hon, ac nid teithiau sy'n ofynnol oherwydd bod yr unigolyn i ffwrdd o'r cyfeiriad cymwys dros dro, er enghraifft, ar wyliau.