Fformat gofynnol ar gyfer llofnod a dyddiad geni a gaiff eu cynnwys ar gais am bleidlais drwy ddirprwy
Er nad oes ffurflen ragnodedig ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, mae'r rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i lofnod a dyddiad geni'r ymgeisydd gael eu nodi fel a ganlyn:1
bydd y llofnod yn ymddangos yn erbyn cefndir o bapur gwyn heb linellau sy'n 5cm o hyd ac yn 2cm o uchder o leiaf, a
bydd dyddiad geni'r ymgeisydd ar ffurf rhifau yn y drefn dyddiad, mis a blwyddyn, h.y. DD MM BBBB
Nid yw lleoliad y llofnod na'r dyddiad geni ar gais yn rhagnodedig. Ni chewch orfodi unrhyw amodau eraill o ran y ffordd y caiff y wybodaeth ei chyflwyno.
Ar yr amod bod y llofnod a'r dyddiad geni yn bodloni'r gofynion deddfwriaethol, rhaid derbyn y cais.
Os ydych yn cynhyrchu ffurflenni cais papur ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dylech sicrhau bod y rhain yn bodloni arferion da safonol o ran hygyrchedd a defnyddioldeb, a'ch bod yn gosod y ffurflen yn glir er mwyn helpu i sicrhau y caiff ei chwblhau'n gywir. Er enghraifft, gallech osod y blwch dyddiad geni cyn y blwch llofnod, gyda lle ar gyfer y dyddiad cwblhau ar ei ôl er mwyn lleihau'r risg y bydd ymgeiswyr yn rhoi'r dyddiad cwblhau gyntaf drwy gamgymeriad.
Os gwneir y cais ar-lein, mae'n rhaid i'r ffotograff o lofnod yr ymgeisydd fodloni'r gofynion a nodir uchod a bod yn ddigon clir a diamwys.2