Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Trefniadau trosiannol ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy
Bydd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy etc.) (Diwygio) 2023 yn cychwyn ar 31 Hydref 2023 a byddant yn effeithio ar geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy a wneir ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Ceisiadau newydd a ddaw i law ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn, sef 31 Hydref 2023
Mae'n rhaid i bob cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau Senedd y DU a/neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a ddaw i law ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn fodloni'r gofynion newydd, gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer dilysu dynodyddion personol.1
Pan na fydd cais yn cynnwys y wybodaeth ofynnol, dylech wneud ymholiadau er mwyn cael y wybodaeth sydd ar goll lle y bo'n bosibl. Os na chyflwynir y wybodaeth sydd ar goll, ni ellir derbyn y cais. Dylech ysgrifennu at yr etholwr yn esbonio pam nad yw'r cais wedi'i dderbyn a sut i gyflwyno cais o'r newydd.
Dileu hawl awtomatig i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn seiliedig ar drefniant pleidleisio absennol llywodraeth leol presennol
Mae'r trefniadau presennol i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn seiliedig ar drefniant y mae etholwr eisoes wedi ei roi ar waith i bleidleisio drwy ddirprwy naill ai yn etholiadau Senedd y DU neu mewn etholiadau llywodraeth leol, neu yn y ddau.
Os bydd etholwr yn ailymgeisio am bleidlais drwy ddirprwy yn etholiadau Senedd y DU, bydd hawl ganddo i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu o hyd tra bo'r trefniant hwnnw ar waith. Yna bydd yn ofynnol i'r etholwr ddiweddaru ei lofnod bob pum mlynedd er mwyn sicrhau bod y trefniant yn parhau i fod ar waith.
O 31 Ionawr 2024 ni fydd gan yr etholwyr hynny sydd â threfniant presennol i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiadau llywodraeth leol yn unig hawl i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu mwyach gan fod darpariaethau yn dileu'r hawl awtomatig hon i etholwyr yng Nghymru. Y rheswm yw nad yw'r trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiadau llywodraeth leol i bleidleiswyr yng Nghymru wedi'u cwmpasu gan y gofyniad newydd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol at ddiben dilysu ID sy'n ofynnol i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Mae cynlluniau i ddiweddaru'r ddeddfwriaeth ar ôl yr etholiadau hyn fel bod y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer y math hwn o etholiad yn cyd-fynd ag etholiadau llywodraethol eraill yn y DU.
Trefniadau trosiannol ar gyfer etholwyr tramor â phleidleisiau drwy ddirprwy
Mewn perthynas â cheisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy a wneir ar ôl cychwyn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy etc.) (Diwygio) 2023 ar 31 Hydref 2023, bydd angen diweddaru'r llofnod pan ddaw'r datganiad tramor presennol i ben. Os gwneir y cais am bleidleisio drwy ddirprwy ar ôl iddynt gychwyn ac nad yw'r etholwr tramor ar gylch adnewyddu 3 blynedd eto, bydd yn ofynnol i'r etholwr tramor ddarparu llofnod newydd pan fydd ei gofrestriad tramor presennol yn dod i ben, na fydd yn hwy na 12 mis.
Fodd bynnag, gwneir cais am estyniad llofnod awtomatig yn yr amgylchiadau canlynol:
- caiff y cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy ei wneud ar ôl cychwyn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy etc.) (Diwygio) 2023
- nid yw cofrestriad tramor yr etholwr wedi newid eto o'r broses adnewyddu 12 mis i'r broses adnewyddu tair blynedd newydd
- gwnaed y cais dirprwy lai na thri mis cyn bod angen adnewyddu datganiad presennol yr etholwr tramor
Os bydd yr etholwr yn adnewyddu ei ddatganiad, effaith yr estyniad hwnnw fydd na fydd angen i'r etholwr ddarparu llofnod nes yr amser nesaf iddo adnewyddu ei ddatganiad.
Mae ein canllawiau ar etholwyr tramor wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau o ganlyniad i Ddeddf Etholiadau 2022.
- 1. Rheoliad 51(2) (a) ac (aa), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (RPR 2001) (fel y'u diwygiwyd), Paragraff 11(1)(a) ac (aa) Atodlen 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) (fel y'i diwygiwyd) ↩ Back to content at footnote 1