Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy
Gellir gwneud cais ar unrhyw adeg a dylech brosesu pob cais cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, ceir dyddiadau cau mewn deddfwriaeth ar gyfer derbyn ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy fel eu bod yn gymwys mewn etholiad penodol.
Y dyddiad cau ar gyfer newid trefniadau presennol i bleidleisio drwy ddirprwy neu i ddirprwy bleidleisio drwy'r post (gan gynnwys eu canslo) | 5pm – 11 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad1 |
---|---|
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (ac eithrio pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng) a phenodi dirprwyon newydd | 5pm – 6 diwrnod gwaith cyn dyddiad yr etholiad 2 |
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i fwrw pleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | 5pm – y diwrnod pleidleisio 3 |
Mae'r dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy mewn etholiadau yn rhai statudol. Ni ellir ymestyn y dyddiadau cau am unrhyw reswm. Ni ellir derbyn ceisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau ar gyfer etholiad penodol a rhaid eu gwrthod ar gyfer yr etholiad hwnnw, a dylid rhoi gwybod i'r etholwr.4
Fodd bynnag, os yw'n gais am gyfnod penodol neu amhenodol sy'n mynd y tu hwnt i'r etholiad, a bod y cais yn bodloni'r holl ofynion rhagnodedig, dylid rhoi gwybod i'r etholwr ei fod wedi colli'r dyddiad cau i gael pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiad hwnnw ond y bydd ei bleidlais drwy ddirprwy yn weithredol mewn etholiadau yn y dyfodol. Os gwrthodir y cais, rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd o'r penderfyniad a'r rheswm drosto.5
Deisebau Adalw
Bydd gan unigolyn hawl i lofnodi deiseb drwy ddirprwy os caniatawyd cais i bleidleisio drwy ddirprwy iddo am gyfnod penodol neu amhenodol mewn etholiadau seneddol cyn 5pm ar y diwrnod olaf (3 diwrnod gwaith cyn diwrnod cyntaf y cyfnod llofnodi).
Os caniatawyd cais i unigolyn bleidleisio drwy ddirprwy am gyfnod penodol ac mae'r cyfnod hwnnw yn dod i ben yn ystod cyfnod llofnodi deiseb benodol, tybir y bydd yr hawl i bleidleisio drwy ddirprwy yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod penodol hwnnw.6
Cyfrifo dyddiadau cau
Caiff dyddiadau cau eu cyfrifo mewn diwrnodau gwaith drwy eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a gwyliau banc.
Mae gwyliau banc sy'n gymwys wrth gyfrifo dyddiadau cau ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy yn rhai sy'n gymwys yn unrhyw le yn yr ardal lle caiff yr etholiad cyfan ei gynnal. Felly, mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU, bydd gŵyl y banc yn yr Alban yn gymwys yng Nghymru a Lloegr hefyd. Yr unig eithriad i hyn yw pan gaiff gweithrediadau mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU mewn etholaeth benodol eu dechrau o'r newydd gan fod ymgeisydd wedi marw. Yn yr achos hwn, dim ond y gwyliau banc sy'n gymwys yn yr ardal dan sylw gaiff eu cynnwys wrth gyfrifo'r dyddiadau cau ar gyfer pleidleisio absennol.
Fodd bynnag yn is-etholiadau Senedd y DU ac mewn etholiadau llywodraeth leol, dim ond y gwyliau banc sy'n gymwys yn yr ardal lle caiff yr etholiad ei gynnal y mae'n rhaid eu hystyried.7
- 1. Rheoliad 56(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (RPR) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 56(2) a (3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 56(3A) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 56(1) - (4) a 57(5) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 57(1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 50, Rheoliadau Deddf Adalw ASau 2015 (Deiseb Adalw) 2016 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 56(4) a 57(5) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 7