| Argraffu'r canllawiau llawn

Cymhwysedd i bleidleisio drwy ddirprwy

Dylech sicrhau bod etholwyr yn gwybod bod yr opsiwn ganddynt i bleidleisio drwy'r post, drwy ddirprwy neu yn bersonol. Bydd hyn yn eu galluogi i wneud dewis ar sail gwybodaeth o ran yr opsiwn sydd fwyaf addas i'w hamgylchiadau. 

Mae gan etholwyr sydd wedi'u cofrestru, neu a fydd yn cael eu cofrestru, yr hawl i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Er mwyn i rywun fodloni'r meini prawf ‘bydd yn cael ei gofrestru’, mae'n rhaid i'r cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod fod wedi mynd heibio a rhaid eich bod wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch ei gais i gofrestru, sy'n golygu y caiff ei ychwanegu at y gofrestr pan gyhoeddir yr hysbysiad o newid nesaf neu pan gyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag sydd gyntaf.1

Gall trefniant i bleidleisio drwy ddirprwy fod ar waith ar gyfer un o'r canlynol:2

  • cyfnod amhenodol
  • cyfnod penodol
  • etholiad penodol

Rhesymau dros wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy am gyfnod penodol neu amhenodol 

Er bod gan bawb yr hawl i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol, mae angen rhoi rheswm penodol dros geisiadau am gyfnod penodol neu amhenodol.

Y rhesymau hyn yw:3

  • dallineb
  • anabledd arall (rhaid nodi'r anabledd) 
  • galwedigaeth/cyflogaeth/gwasanaeth/presenoldeb ar gwrs (rhaid rhoi manylion)
  • wedi cofrestru fel pleidleisiwr yn y lluoedd arfog neu bleidleisiwr tramor
  • wedi cofrestru fel etholwr dienw
  • mae angen teithio dros y môr neu yn yr awyr i fynd o'r cyfeiriad cofrestredig i orsaf bleidleisio'r unigolyn

Mewn rhaid achosion, bydd angen cael ardystiad i gefnogi'r cais hefyd. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ardystio. 

Pleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol 

Y cyfan y mae angen i'r ymgeisydd ei wneud er mwyn gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol yw rhoi rheswm dros bleidleisio drwy ddirprwy.4

Mae nifer o resymau pam y gall unigolyn benderfynu pleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiad penodol. Os na roddir esboniad o'r rheswm ar y cais, bydd yn anghyflawn a dylech ysgrifennu at yr etholwr yn gofyn iddo roi esboniad. Os na roddir esboniad, dylech wrthod y cais ar y sail nad yw'n bodloni'r gofynion rhagnodedig.

Gwneir y penderfyniad ynghylch a yw'r rheswm a roddir yn foddhaol yn ôl eich disgresiwn. Fodd bynnag, ni allwch wrthod cais i bleidleisio drwy ddirprwy am nad ydych yn fodlon ar yr esboniad yn unig. Dylech dderbyn ceisiadau ar eu golwg. Os bydd y rheswm yn codi amheuon, neu os bydd gennych bryderon oherwydd amgylchiadau eraill sy'n cysylltu'r cais â rhai eraill yn yr ardal, neu â chyfeiriad penodol, dylid rhoi gwybod am hyn i'ch Pwynt Cyswllt Unigol (SPOC) yn yr heddlu. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Tachwedd 2025