Pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn cais am bleidlais drwy ddirprwy?

Bydd yr wybodaeth y mae angen ei chynnwys mewn ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn amrywio yn dibynnu ar y math o etholiad y gwneir cais am bleidlais drwy ddirprwy ar ei gyfer. Mae'n rhaid i bob cais gynnwys y canlynol: 

  • enw llawn yr etholwr 
  • y cyfeiriad lle mae'r etholwr wedi'i gofrestru (neu wedi gwneud cais i gofrestru) i bleidleisio
  • dyddiad geni'r etholwr
  • llofnod yr etholwr (neu gais am hepgoriad llofnod)
  • p'un a yw'r cais ar gyfer etholiad ar ddyddiad penodol (ac, os felly rhaid cadarnhau pa un), cyfnod penodol (ac, os felly, rhaid nodi dyddiadau'r cyfnod) neu gyfnod amhenodol 
  • pa etholiadau y mae'r cais yn berthnasol iddynt
  • dyddiad y cais

Rhaid i'r cais gynnwys y canlynol hefyd

  • enw llawn a chyfeiriad y dirprwy
  • ar ba sail y mae'r etholwr yn honni bod ganddo hawl i bleidleisio drwy ddirprwy
  • datganiad yn cadarnhau bod y dirprwy yn gallu cael ei benodi'n ddirprwy ac yn barod i'w benodi

Etholiadau'r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol

Rhaid i geisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru hefyd gynnwys:

  • y berthynas deuluol rhwng yr etholwr a’r dirprwy (os oes un)

 

Etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu

Mae'n rhaid i geisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd gynnwys y wybodaeth ganlynol:  

  • rhif Yswiriant Gwladol yr ymgeisydd neu, os na all ddarparu'r wybodaeth honno, y rheswm pam na all wneud hynny 

Caiff enw llawn, rhif Yswiriant Gwladol a dyddiad geni'r ymgeisydd eu hadnabod fel ei ddynodyddion personol hefyd a defnyddir y darnau hyn o wybodaeth i baru â data'r Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd pan fydd yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar rifau Yswiriant Gwladol a dyddiadau geni yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddynodyddion personol.

Os na all ymgeisydd ddarparu rhif Yswiriant Gwladol, gall ddarparu gyda'i gais gopi o'r dogfennau a restrir yn y rhestr o ddogfennau a dderbynnir ar gyfer y broses eithriadau.1   

Os caiff y dogfennau hyn eu darparu, gellir eu defnyddio i gadarnhau pwy yw ymgeisydd. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad er mwyn sicrhau y gellir prosesu cais yn ddi-oed.

Gall cais gynnwys enw blaenorol, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn ymgeisydd hefyd, ond nid yw'r rhain yn ofynnol.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Ebrill 2024