Cynnal cofrestru etholiadol - Cymru
Penderfynu ar geisiadau am bleidleisiau drwy ddirprwy
Bydd y ffordd y byddwch yn penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn dibynnu ar y math o etholiad y mae'r cais ar ei gyfer.
Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol
Dim ond etholwyr sydd wedi'u cofrestru, neu a fydd yn cael eu cofrestru, all wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.1 Felly bydd angen i chi gadarnhau bod yr ymgeisydd wedi'i gofrestru, neu y bydd yn cael ei gofrestru, cyn caniatáu cais am bleidlais drwy ddirprwy.
Er mwyn i rywun fodloni'r meini prawf ‘bydd yn cael ei gofrestru’, mae'n rhaid i'r cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod fod wedi mynd heibio a rhaid eich bod wedi gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch ei gais i gofrestru, sy'n golygu y caiff ei ychwanegu at y gofrestr pan gyhoeddir yr hysbysiad o newid nesaf neu pan gyhoeddir y gofrestr ddiwygiedig, pa un bynnag sydd gyntaf.2
Unwaith y bydd y cais wedi mynd drwy'r gwiriad cofrestru yn llwyddiannus, rhaid craffu arno i sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig.3 Os yw'n bodloni'r gofynion, rhaid i chi gadarnhau canlyniad y cais i'r etholwr.4
Os bydd ceisiadau yn anghyflawn, dylech wneud ymholiadau er mwyn cael y wybodaeth sydd ar goll lle y bo'n bosibl. Os na chyflwynir y wybodaeth sydd ar goll, rhaid gwrthod y cais.
Os bydd yn ymddangos bod yr etholwr wedi gwneud camgymeriad wrth gwblhau ei gais am bleidlais drwy ddirprwy (er enghraifft, os bydd wedi rhoi ei ddyddiad geni yn y drefn anghywir), dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn iddo ailgyflwyno ffurflen gais. Dylech gymryd camau ychwanegol i gysylltu â'r etholwr drwy e-bost neu dros y ffôn lle y bo modd, os yw'n agos at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn etholiad.
Os bydd gennych bryderon o ran uniondeb, dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor a delio â'r ffurflen gais yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a gewch ganddo mewn perthynas â thrin tystiolaeth.
Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dim ond etholwyr sydd wedi'u cofrestru, neu a fydd yn cael eu cofrestru, all wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Caiff ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu eu prosesu yn y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol (ac eithrio ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng). Caiff gwiriad o'r gofrestr etholiadol berthnasol a gedwir yn eich System Rheoli Etholiad ei gynnal a bydd canlyniad y gwiriad hwn yn ymddangos yn y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn cadarnhau p'un a yw person sydd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn etholwr cofrestredig ai peidio.
Caiff ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng eu prosesu yn y System Rheoli Etholiad a bydd angen cynnal gwiriad â llaw i gadarnhau bod yr etholwr wedi'i gofrestru neu y bydd yn cael ei gofrestru.
Os canfyddir bod cofnod yn aros i gael ei ychwanegu at y gofrestr ar gyfer ymgeisydd, gallwch benderfynu ar y cais am bleidlais drwy ddirprwy ar ôl i'r cyfnod gwrthwynebu pum diwrnod fynd heibio.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn dychwelyd i broses y Porth i Swyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn prosesu ceisiadau'r rhai sy'n aros i gael eu hychwanegu ar ôl y cyfnod gwrthwynebu.
Os bydd y canlyniadau yn dangos nad yw ymgeisydd wedi'i gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol neu nad yw wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar gofrestr etholiadol berthnasol, dylech benderfynu a ddylid gwrthod y cais ar y cam hwn, aros ac edrych eto yn ddiweddarach, neu wneud math arall o wiriad â llaw a all fod yn ddefnyddiol.
Gallai hyn gynnwys edrych i weld a yw'r ymgeisydd wedi gwneud cais i gofrestru ar yr un pryd ag y gwnaeth gais am bleidlais drwy ddirprwy ac nad yw'r gwiriad data o'r broses gofrestru wedi'i ddychwelyd eto, neu gadarnhau a oes mân wahaniaeth sy'n golygu na ellir dod o hyd i gofnod cyfatebol. Er enghraifft, efallai y bydd enw etholwr wedi'i gamsillafu neu efallai y bydd wedi'i newid yn gyfreithiol ers gwneud y cais i gofrestru.
Dylech gysylltu â'r etholwr er mwyn gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol fel y gallwch fod yn fodlon mai'r cofnod ar y gofrestr yw'r un person sydd wedi gwneud y cais am bleidlais drwy ddirprwy.
Unwaith y bydd y cais wedi mynd drwy'r gwiriad cofrestru yn llwyddiannus, rhaid craffu arno i sicrhau ei fod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig.5 Os yw'n bodloni'r gofynion, rhaid i chi gadarnhau canlyniad y cais i'r etholwr a'i ddirprwy.6
Mae ein canllawiau ar gadarnhau canlyniad ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Os bydd yn ymddangos bod yr etholwr wedi gwneud camgymeriad wrth gwblhau ei gais am bleidlais drwy ddirprwy (er enghraifft, os bydd wedi rhoi ei ddyddiad geni yn y drefn anghywir), dylech gysylltu â'r etholwr a gofyn iddo ailgyflwyno ffurflen gais. Dylech gymryd camau ychwanegol i gysylltu â'r etholwr drwy e-bost neu dros y ffôn lle y bo modd, os yw'n agos at y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn etholiad.
Os bydd gennych bryderon o ran uniondeb, dylech gysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol am gyngor a delio â'r ffurflen gais yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a gewch ganddo mewn perthynas â thrin tystiolaeth.
Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn darparu canllawiau ar sut mae defnyddio EROP.
- 1. Atodlen 4, Paragraff 3(2) a 4(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (RPA) 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adrannau 9(2), 10ZC (1), 13 ac 13A, RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 51, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Para 1 Atodlen 1, Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (NAW 2007) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 57(1), RPR 2001, Para 8(1) NAW 2007 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 51 RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 57(1) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 6