Y prosesau eithriadau ac ardystio ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost
Dylech ofyn i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ychwanegol os bydd hyn yn angenrheidiol yn eich barn chi er mwyn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd.1
Gall hyn fod am y rhesymau canlynol:
nid yw'n gallu darparu ei rif Yswiriant Gwladol
ni ellir paru'r dynodyddion personol yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau
Gall y dystiolaeth ychwanegol hon fod ar ffurf dogfennau ategol sy'n cadarnhau bod yr ymgeisydd yn dweud y gwir am bwy ydyw, sef y broses eithriadau neu, os na wneir hynny, drwy ddarparu datganiad gan unigolyn arall yn cadarnhau pwy yw'r ymgeisydd, sef y broses ardystio.
Mae'r mathau o ddogfennau a'u nifer a chynnwys ardystiadau sy'n dderbyniol er mwyn cadarnhau pwy yw ymgeisydd yn amrywio yn ôl y categori o etholwr y mae'r ymgeisydd wedi cofrestru oddi tano.
1. Rheoliad 56C, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (fel y'u diwygiwyd), Para 16C, Atod 2, Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (fel y'i diwygiwyd)↩ Back to content at footnote 1