Penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at etholiad

Os bydd etholwr sy’n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad yn methu gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir penderfynu ar ei gais gan ddefnyddio’r broses eithriadau neu’r broses ardystio hyd at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio. Er mai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am brosesu ceisiadau, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am anfon gwybodaeth o ran dirprwyon. Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (lle nad chi yw'r Swyddog Canlyniadau hefyd) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau a diweddariadau dilynol i gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol.

Mae ein canllawiau ar gyfathrebu penodiadau dirprwyon i staff gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hyn.  

Pa bynnag penderfyniad a wnewch, rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i'w hysbysu.1  Mae ein canllawiau ar gadarnhau canlyniad ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024