Pwy all ardystio cais am bleidlais drwy ddirprwy ar sail galwedigaeth, cyflogaeth, gwasanaeth neu bresenoldeb ar gwrs?
Pwy all ardystio cais am bleidlais drwy ddirprwy ar sail galwedigaeth, cyflogaeth, gwasanaeth neu bresenoldeb ar gwrs?
Rhaid i ffurflenni cais i benodi dirprwy ar sail galwedigaeth, cyflogaeth, gwasanaeth neu bresenoldeb ar gwrs gael eu hardystio:1
gan gyflogwr yr ymgeisydd, neu gyflogai sydd wedi'i ddirprwyo i wneud hynny ar ran y cyflogwr
os yw'r ymgeisydd yn hunangyflogedig, gan rywun sy'n 18 oed neu'n hŷn sy'n adnabod yr unigolyn ond nad yw'n perthyn iddo, neu
os yw'r ymgeisydd yn dilyn cwrs, gan diwtor cwrs neu bennaeth y sefydliad addysgol lle y cynhelir y cwrs, neu gyflogai sydd wedi'i ddirprwyo i wneud hynny ar ran y pennaeth